Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Bydd Oriel Hengwrt, sy'n dal arddangosfa Trysorau, ar gau ar Ddydd Llun 9 Medi. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Prosiect pum mlynedd yw Datgloi Ein Treftadaeth Sain, sy’n cael ei arwain gan y Llyfrgell Brydeinig a’i ariannu gan Gronfa Treftadaeth y Loteri. Pwrpas y prosiect yw amddiffyn casgliadau sain prin ac unigryw drwy eu digido.
LLGC yw un o’r 10 Canolfan rhwydweithio Cadwraeth Sain sydd wedi eu sefydlu ar draws y Deyrnas Unedig i ddelio gyda’r bygythiad sy’n wynebu recordiadau sain. Yr Hybiau eraill yw:
1. Archives+, Cyngor Tref Manceinion
2. Bristol Culture
3. Archifau Metropolitan Llundain
4. Llyfrgell Genedlaethol yr Alban
5. Llyfrgell Genedlaethol Cymru
6. Amgueddfeydd Cenedlaethol Gogledd Iwerddon
7. Archifdy Norfolk
8. The Keep / Prifysgol Sussex
9. Archifau ac Amgueddfeydd Newcastle
10. Prifysgol Caerlŷr
Bydd pob hwb yn derbyn nawdd am dair blynedd. Apwyntiwyd Rheolwr Prosiect, Peiriannydd Cadwraeth Sain, Catalogydd Sain a Swyddog Hawliau fel rhan o'r tîm. Bydd staff y prosiect yn gyfrifol am ddigido, catalogio a darparu mynediad i 5,000 o eitemau sain allan o gasgliad y Llyfrgell ac o gasgliadau’r partneriaid yng Nghymru. Bydd y recordiadau hyn yn cael eu defnyddio mewn gweithgareddau dysgu ac ymgysylltu gan godi proffil Archifdai Sain y Deyrnas Unedig.