Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Hyfforddiant i'r sector ddiwylliannol ar gynllunio, adnabod a gofalu am, digido, catalogio a darparu mynediad at recordiadau sain
Mae technoleg recordio sain wedi bod gyda ni ers ymhell dros ganrif, ac mae'n hynod gyffredin dod o hyd i ychydig o dapiau, disgiau a fformatau eraill mewn casgliadau oriel, llyfrgell, archif ac amgueddfa ledled y DU a thu hwnt, a gedwir yn aml fel casgliadau mwy traddodiadol.
Ychydig o staff proffesiynol yn y sefydliadau hyn sydd wedi derbyn hyfforddiant ar sut i ofalu am eitemau sain a'u defnyddio, ac o ganlyniad maent yn aml yn cael eu hisraddio i gefn y silff, gan aros am ddiwrnod na ddaw byth. Fodd bynnag, mae llawer o fformatau sain mewn perygl oherwydd nad yw'r offer chwarae angenrheidiol ar gael, ac felly mae'r amser sydd gennym i fynd i'r afael â'r eitemau casglu hyn yn gyfyngedig, i ychydig flynyddoedd ar y mwyaf.
Mae'r prosiect Datgloi Ein Treftadaeth Sain ledled y DU yn lansio cyfres o adnoddau a gweithgareddau ar-lein, i helpu deiliaid casgliadau i ddeall a gofalu am eu casgliadau sain
Mae'r hyfforddiant ar-lein, rhad ac am ddim hwn, ar ofalu am gasgliadau sain yn agored i unrhyw un sy'n gweithio mewn oriel, llyfrgell, archif neu amgueddfeydd yng Nghymru. Y nod yw helpu deiliaid casgliadau i ddeall a gofalu am eu harchif sain.
Bydd y tîm Datgloi Ein Treftadaeth Sain yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar-lein yn canolbwyntio ar:
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar sut i adnabod, trin a storio fformatau sain, ac yn gyfle i ddysgu am egwyddorion digido
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar gynllunio a pharatoi casgliadau. Dysgwch sut i greu cynllun cadwraeth sylfaenol a sut i archwilio'ch casgliadau sain eich hun
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd creu metadata ar gyfer eich casgliadau. Dysgwch sut i gatalogio'ch archif sain, a chreu crynodebau cryno ar gyfer y recordiadau
Bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd hawlfraint mewn casgliadau sain. Dysgwch sut i ymchwilio i ddeiliaid hawliau, a sut i gofnodi unrhyw faterion sensitif er mwyn darparu mynediad ar y safle ac ar-lein i'ch casgliadau.
Cefnogaeth
Darperir taflenni a grewyd gan y Llyfrgell Brydeinig ar ddiwedd y sesiwn. Am unrhyw ymholiad neu gyngor, cysylltwch â ni ar: uosh@llgc.org.uk
Bydd y cyflwyniadau yn cael eu cynnal dros Zoom gyda’r ticedi ar gael ar Eventbrite
Bydd manylion sut i ymuno â’r digwyddiad yn cael ei rannu ar ôl i chi gofrestru