Symud i'r prif gynnwys

Mae’r Archif yn ffodus iawn i dderbyn deunydd clyweledol gan roddwyr. Y rhoddion yma sy’n sicrhau bod casgliad yr Archif yn parhau yn un cyfoethog ac amrywiol. Dyma enghraifftiau o gasgliadau diddorol:

  • Archif Menywod Cymru (Voices from the factory floor)
  • Casgliadau William Mathias
  • Casgliadau Meredydd Evans
  • Meredydd Evans and Phyllis Kinney
  • Brecon U3A

Archif Syr Geraint Evans

Derbyniwyd deunydd gwerthfawr iawn o archif Syr Geraint Evans. Cynhwysai’r casgliad rhaglenni teledu yr ymddangosodd y canwr opera yddynt yn ystod y 70au a’r 80au megis opera ‘The Beach of Falesa’, rhaglen dathlu’r nadolig gyda Geraint a’i westeion – ‘Beneath the Christmas tree,’ yn ogystal âg ambell i raglen ddogfen, ‘Geraint Evans in Covent Garden’ lle y bu yn ymweld a’r sefydliad y dechreuodd ei yrfa fel canwr opera.


Straeon Digidol

Prosiect llwyddiannus y BBC yw Cipolwg ar Gymru, sydd yn galluogi pobl o phob oedran i greu straeon byrion. Ledled Cymru mae pobl yn creu straeon digidol ynghlyn a phrofiadau bywyd, ac mae pob stori mor unigryw ar sawl sy’n ei greu. Storiwyd y storiau hyn fel rhan o gasgliadau’r Archif.


Archif Llenyddiaeth Cymru

Bu prosiect Archif Llenyddiaeth Cymru yn edrych ar ddyfodol archifau llenyddol yn yr oes ddigidol, sut mae awduron wedi newid eu ffordd o weithio, y ffordd o gofnodi eu gwaith, a beth yw goblygiadau hynny ar gyfer dyfodol archifau yn y llyfrgell. Bu'r prosiect yn cydweithio â sampl o lenorion amlwg Cymru, ac fe aed ati i gyfweld rhai ohonynt. Storiwyd y cyfweliadau hyn yn yr Archif.


Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen

Mae'r Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn ŵyl fyd-enwog o gerddoriaeth a chân. Gellir clywed a gweld y cystadlaethau hyn fel rhan o gasgliad yr Archif.


Y Gadwyn

Cylchgrawn arbennig ar gyfer y deillion a'r gwan eu golwg yw'r Gadwyn - y cyntaf o'i fath yn y Gymraeg. Sefydlwyd yn 1992 gan griw o wirfoddolwyr ymroddgar. Mae'r cylchgronau yn llawn hanes, cerddoriaeth, cyfweliadau a storiau diddorol a chyffrous.


Hanes Llafar Llyfrgell Ceredigion

Yn ystod 1960au a 1970au aethpwyd ati i recordio nifer eang o trigolion Ceredigion gan roi eu hatgof ar gof a chadw. Mae'r tapiau hyn yn ffrwyth cyfuniad o ddiwylliant y Sir. Rhoddwyd y casgliad yng ngofal yr Archif i'w diogelu. Er i rai o rhain fod ar y catalog yn barod gellir gweld y casgliad cyflawn yn y catalog mynegai sydd ar gael yn yr Archif.


Archif Sain Drake

Yn 1993 dechreuodd Clwb Busnes Caerdydd recordio areithiau siaradwyr gwâdd y clwb, fel modd o groniclo’r hyn sydd ganddynt i’w ddweud wrth gymuned busnes Caerdydd. Penderfynodd Clwb Busnes Caerydd eu bod am sicrhau roi'r casgliad yng ngofal yr Archif i'w ddiogelu. Felly, mae’r areithiau yma bellach yn rhan o'r casgliad, ac wedi eu catalogio.


Prosiect Cymru Anabl

Roedd ‘Cymru Anabl’ yn brosiect gan Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru, Cwmni Theatr Hijinx a TAPE: Cerdd a Ffilm Cymunedol, gyda chefnogaeth cronfa Treftadaeth Sgrin Loteri Genedlaethol y British Film Institute.

Mae adroddiad ar y prosiect, sy'n cynnwys blaenoriaethau ar gyfer gwaith y dyfodol, ar gael i'w ddarllen.