Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Ymchwil, Darlledu, Dangosiadau Cymuned, Dysgu, Arddangosfa, Creadigolrwydd, Darparu Copiau at Ddibenion Masnachol
Mae'r Archif yn cynnig gwasanaeth proffesiynol, a gwasanaeth ymchwil i gwmnïau a sefydliadau sydd yn dymuno gwneud defnydd masnachol o ddeunydd yr Archif. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys:
Gall yr Archif, am ffi, ddarparu copïau at ddibenion preifat i unigolion. Mae hyn yn ddibynol ar sicrhau caniatâd gan y deilydd hawlfraint. Bydd gofyn i’r unigolyn sydd eisiau copi arwyddo cytundeb a fydd yn cydymffurfio ag amodau'r Archif.
Ceir mwy o wybodaeth am ffioedd ar y ffurflen brisiau (pdf)
Ceir gwybodaeth am ffioedd casgliad archif ITV ar restr brisiau arwahan (pdf)
Cysylltwch gyda ni am fwy o wybodaeth: sgrinasain@llgc.org.uk
Neu, cwblhewch y ffurflen ymholiadau arlein
Bellach, cedwir a diogelir archif deledu'r Eisteddfod Genedlaethol o 1999 ymlaen gan yr Archif Sgrin a Sain . Golyga hyn fod holl ddigwyddiadau'r Pafiliwn a'r Babell Lên ar gof a chadw. Bydd modd i bobl sydd wedi cofrestru'n ddarllenwyr wylio'r deunydd yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Hefyd gall cystadleuwyr, perfformwyr, teuluoedd a ffrindiau brynu copi o gystadleuaeth neu seremoni at ddefnydd preifat yn unig.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â copi@llgc.org.uk