Mae sawl ffordd o gysylltu â'r gwasanaeth:
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru'n cynnig gwasanaeth ateb ymholiadau rhad ac am ddim. Mae croeso i ymholwyr gysylltu â ni gyda'u cwestiynau. Anelwn at ateb 90% o'r holl ymholiadau o fewn 10 diwrnod gwaith, ond gall ymholiadau cymhleth, neu rai sy'n ymholiadau Rhyddid Gwybodaeth gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith. Ceir mwy o wybodaeth yn ein Polisi Ymholiadau.
Mae’r Llyfrgell wedi casglu ynghyd rhai o’n hymholiadau mwyaf cyffredin ac wedi eu gosod mewn cronfa wybodaeth chwiliadwy sy'n cael ei chynnal gan QuestionPoint. Ceir yma amrywiaeth o gwestiynau’n ymwneud â’r Llyfrgell, sut i ddefnyddio'r Llyfrgell, a’r casgliadau a gedwir yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau sut i ddefnyddio Catalo Llawysgrifau ac Archifau LLGC, mae'n bosib cael hyd i'r ateb ar dudalen Cymorth Catalog neu tudalen Cymorth Archifau a Llawysgrifau LLGC
Gallwn ateb ymholiadau sy'n seiliedig ar gasgliadau amrywiol y Llyfrgell, gan gynnwys ateb ymholiadau achyddol sylfaenol os darperir digon o fanylion. Byddwn yn barod i:
Nodwch fod mwyafrif o'n catalogau a'n cronfeydd data bellach ar gael ar ein gwefan. Mae nifer o eitemau o'n casgliadau hefyd wedi eu digido.
Os nad ydych yn medru ymweld â'r Llyfrgell ac angen copïau, mae modd i chi gysylltu â'r Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r
Wedi i ni gadarnhau ein daliadau ac ystyried unrhyw oblygiadau hawlfraint a chadwraethol, anfonir ffurflen gais atoch i'w llofnodi, ei dyddio, a'i dychwelyd at y Gwasanaeth Ymholiadau gyda'r tâl. Gellir dychwelyd y ffurflen atom yn electronig, drwy ffacs neu drwy'r post. Gallwch dalu am eich copïau â siec, yn uniongyrchol i gyfrif banc y Llyfrgell, neu â cherdyn credyd. Os am dalu â cherdyn, argraffwch y 'ffurflen talu â cherdyn credyd' o'r wefan, ei chwblhau, gan nodi rhif eich archeb arni, a'i dychwelyd gyda'r ffurflen gais. Cofiwch gysylltu gyda'r Gwasanaeth Ymholiadau os am gyngor neu gymorth.
I weld sut yr ydym yn delio â'ch data personol gweler y Datganiad Preifatrwydd.