Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’r Archif yn casglu cerddoriaeth sydd â chysylltiad Cymreig: boed yn grŵp neu artist Cymreig, neu’n gerddoriaeth a gynhyrchwyd yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r casgliad yn cynnwys ystod eang o gerddoriaeth, o’r gwerin traddodiadol i gerddoriaeth emo/nu metal.
Ers dyfodiad lawrlwytho, a gwefannau rhwydweithio megis Twitter, a Facebook ceir llai o bwyslais ar berchnogaeth ffisegol.
Mae’r amrywiaeth o gerddoriaeth yn gwneud casgliad yr Archif yn ddiddorol ac yn gyfoes. Mae’r Archif yn parhau i gasglu deunydd drwy gyd-weithio yn agos gydag artistiaid, rheolwyr a chasglwyr unigol sy’n hysbysu’r Archif o gerddoriaeth sydd â chysylltiad Cymreig.