Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Yn bresennol:
Aelodau'r Bwrdd:
Tîm Gweithredol:
Hefyd yn bresennol:
Cofnodion:
Ymddiheuriadau:
1.1 Croeso gan y Cadeirydd a sylwadau agoriadol
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, gan estyn croeso arbennig i’r tri Ymddiriedolwr newydd sef Heledd Bebb, Mohini Gupta a Michael Gibbon. Croesawyd hefyd Phillip Roberts a Mary Ellis ar ran Llywodraeth Cymru a Sara Weale ar ran Cyngor Partneriaeth y Llyfrgell.
Nodwyd hefyd y bydd Andrew Prescott yn ymuno fel Ymddiriedolwr o fis Mai 2025 ymlaen.
Croesawyd Annwen Isaac a fyddai’n cymryd at y rôl Llywodraethiant a hefyd Llinos Williams, Swyddog Gweithredol Adran y Prif Weithredwr.
Rhannwyd y linc efo’r Ymddiriedolwyr i adroddiad y Pwyllgor, Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Senedd Cymru “Degawd o doriadau: Effaith gostyngiadau cyllid ar ddiwylliant a chwaraeon” a gyhoeddwyd 9 Ionawr 2025.
1.2 Datgan buddiannau sy’n berthnasol i’r agenda
Datganodd Aelodau’r Tîm Gweithredol, y Rheolwr Adnoddau Dynol a’r Swyddog Gweithredol fuddiant yn y drafodaeth ar y cynllun pensiwn fel aelodau gweithredol o’r cynllun hwnnw.
1.3 Cofnodion cyfarfod 6 Rhagfyr 2024 a materion yn codi nad ydynt ar yr agenda
Cymeradwywyd y cofnodion fel cofnod cywir o’r materion a drafodwyd, gyda’r materion canlynol yn codi nad ydynt ar yr agenda:
Opsiynau gofod storio - cadarnhawyd y byddai’r Panel Adeiladau a’r Grŵp Gofod Storio yn cyfarfod ym mis Chwefror. Bydd dogfen o’r gwersi a ddysgwyd o ystyried tendr yr Hafod yn cael ei gyflwyno i’r un cyfarfod.
RSM Holiadur archwiliad risg – bydd holiadur yn cael ei gylchredeg yn fuan i’r Ymddiriedolwyr.
Cynllun Gweithredu Argymhellion Beaufort - cadarnhawyd y bydd cynllun gweithredu i hyrwyddo Strategaeth newydd y Llyfrgell yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf, 7 Mawrth 2025.
2.1 Adroddiad y Prif Weithredwr
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad llafar, gan dynnu sylw at y materion penodol canlynol:
Storm Darragh - o ganlyniad i’r storm bu difrod i orchudd plastig y to, bu’n rhaid gwneud gwaith atgyweirio brys i atal y dŵr rhag llifo i mewn. Collwyd y trydan am gyfnod hefyd. Erbyn hyn mae’r gorchudd plastig wedi ei ail-osod. Daeth staff i mewn ar fyr rybudd i gynorthwyo gyda symud y casgliadau oedd mewn peryg.
Cynllun Strategol – mae’r cynllun wedi ei rannu efo’r staff yn fewnol, cynhelir yr ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod Ionawr/Chwefror. Cadarnhawyd hefyd y bydd yr ymgynghoriad yn cael ei chyhoeddi ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithaso yn ogystall â chysylltu efo’n rhanddeiliaid.
Rhaglen Newid ac Adnewyddu – Mae’r Tasglu mewnol wedi ei sefydlu ac yn cyfarfod 20 Ionawr.
Prosiectau - y prosiectau blaenoriaeth fydd edrych ar anghenion storio hirdymor, y Maniffesto Digidol ac ymateb i ganlyniad Adroddiad Beaufort.
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru - mae’r gyllideb ddrafft wedi ei chyhoeddi sy’n weddol galonogol, gan nad oes yna doriad pellach i’r gyllideb, o ddweud hynny bydd penderfyniadau anodd i’w gwneud. Mae £850M o gyllideb cyfalaf ychwanegol wedi ei neilltuo i gwblhau’r gwaith ar storfeydd 1 a 2, a £1M ar gyfer asesu opsiynau hir dymor storio a digido. Rhaid ymgeisio am yr arian yma.
Bydd y Gweinidog Jack Sargeant, AS yn ymweld â’r Llyfrgell 8fed Mai i edrych ar y gwaith adnewyddu i’r to ar gwaith datgarboneiddio. Bydd arolwg sicrwydd “Gateway for Review” o brosiect atgyweirio’r to yn cymryd lle diwedd Ionawr.
Dinas Llên – mae’r Llyfrgell yn cydweithio efo partneriaid lleol i gyflwyno cais i geisio ennill statws UNESCO i Aberystwyth. Cyflwynir y cais erbyn diwedd Ionawr 2025.
Prosiect Doethuriaeth CDP4 – bydd 4 myfyriwr yn gweithio’n agos efo’r Llyfrgell yn ystod cyfnod y prosiect hwn.
Arddangosfa Dim Celf Gymreig - cyhoeddwyd erthygl yn y Guardian dros gyfnod y Nadolig yn hyrwyddo’r arddangosfa.
Amgueddfa Cymru - Arddangosfa Gwen John 2026-27 - bydd y Llyfrgell yn gweithio’n agos gyda’r Amgueddfa wrth iddynt baratoi’r arddangosfa. Mae llawysgrifau Gwen John yma yn y Llyfrgell. Bydd yr arddangosfa yn ymweld â Chaerdydd, Caeredin, Yale a Washington DC.
Mae trafodaethau yn cymryd lle o ran dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a CADW gan anelu at gydweithio’n agosach neu uno i’r dyfodol.
3.1 Cynllun Pensiwn
Cyflwynodd Mererid Boswell adroddiad llafar yn nodi bod trafodaethau ar yr ymgynghoriad yn parhau gyda’r Undebau Llafur. Bydd ymateb yr Undebau i’r papur amgen a gyflwynwyd iddynt cyn y Nadolig yn cael ei drafod ym Mwrdd Cynllun Pensiwn ar 29 Ionawr 2025.
3.2 Aelodaeth Pwyllgorau’r Bwrdd
Yn dilyn trafodaeth ar aelodaeth y pwyllgorau cytunwyd fel â ganlyn:
Grŵp Gofod Storio – Susan Davies i ymuno.
Perfformiad, Ansawdd a Llywodraethiant – Heledd Bebb a Mohini Gupta i ymuno.
Panel Adeiladau – David Hay i ymuno.
Bwrdd Cynllun Pensiwn – Michael Gibbon a Heledd Bebb i ymuno gyda Lee Yale-Helms i barhau yn Gadeirydd.
4.1 Materion Ariannol
4.1.1 Cyfrifon Blynyddol Statudol 2023/2024
Cafwyd cyflwyniad ar y Cyfrifon Blynyddol 2023-24 gan Mererid Boswell.
Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd ar 19 Rhagfyr 2024 i graffu ar y cyfrifon. Roedd Anthony Veale, Archwilio Cymru’n bresennol i gyflwyno’r Adroddiad Archwilio’r Cyfrifon a’r Llythyr Rheoli. Fe fydd Archwilio Cymru’n rhoi barn ddiamod ar Gyfrifon 2023/24, sydd yn galonogol iawn.
Diolchwyd i Mererid am ei chyflwyniad clir a dealladwy ac am ei gwaith yn paratoi’r cyfrifon ac i Andrew Veale ac Archwilio Cymru am eu gwaith.
Roedd y Trysorydd yn hapus i argymell bod y Bwrdd yn cymeradwyo’r Cyfrifon, ac fe’i cymeradwywyd yn unfrydol gan y Bwrdd.
Diolchodd Mererid i Gronw Percy a Janet Wademan am ei cymorth gan nodi’r pwysigrwydd o drafod gyda’r archwilwyr ar ddechrau’r archwiliad.
Nodwyd i’r cyfarfod nesaf y byddai’n fuddiol i gael uwchraddiad ar y sefyllfa o ran cymynroddion a chodi incwm.
Bydd rhaid i’r Llyfrgell hefyd ystyried yr oblygiadau o ran polisi ailbrisio a mynegeio’r adeilad gan fod cost uchel o gael gwerthusiad. Bydd polisïau cyfrifo yn cael eu trafod yn y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd ar y 18fed o Chwefror 2025.
4.1.2 ISA 260 - Gohebiaeth gan yr Archwilwyr Allanol
Roedd y Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd wedi trafod y ddogfen yn eu cyfarfod ar 19 Rhagfyr 2024 gyda’r argymhelliad bod Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn derbyn y ddogfen.
Cytunwyd gyda’r cynnwys a derbyniwyd y ddogfen gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr.
4.1.3 Llythyr Ymholiadau Archwilio LLGC
Rhannwyd y llythyr er gwybodaeth yn unig.
4.1.4 Cyfrifon Rheoli Tachwedd 2024
Cyflwynwyd cyfrifon rheoli Tachwedd 2024. Nodwyd ein bod mewn lle gwell na’r hyn a ddisgwyliwyd. Yn dilyn y Cynllun Ymadael yn Wirfoddol, mae lleihad yn niferoedd y staff. Adroddwyd bod yr incwm masnachol yn uwch gan fod y Siop a Phen Dinas yn perfformio’n dda.
Mae’r Cylch Cyflog 2024-25 wedi ei dderbyn gan yr Undebau a bydd yr ôl-daliad i 1af Ebrill 2024 yn cael ei dalu i’r staff yng nghyflogau Ionawr 2025.
4.1.4 Cyllideb 2025-2026 / 2027-2028
Cyflwynwyd gyllideb ddrafft gan Mererid Boswell a oedd wedi ei baratoi ar sail setliad ariannu drafft a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn Rhagfyr 2024. Mae’r gyllideb ddrafft o’r rhagolwg tair blynedd yn seiliedig ar y rhagdybiaethau gorau gan ystyried tueddiadau hanesyddol o ran incwm a’r gallu i reoli costau.
Bydd y papur yn cael ei drafod yn ehangach yn y Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau ym mis Chwefror. Cyflwynir cyllideb derfynol i’r Bwrdd ym mis Mawrth pan fydd y Cynllun Strategol wedi’i gymeradwyo a’r Cynllun Gweithredol yn ei le yn nodi’r blaenoriaethau gwariant.
4.1.5 Cofrestr Risg Corfforaethol
Rhannwyd copi o’r gofrestr er gwybodaeth. Bydd y Pwyllgor Awdit, Risg a Sicrwydd yn trafod y gofrestr yn fanylach.
Diolchodd Gronw Percy i Mererid a’r tîm yn y Llyfrgell am y gwaith ar y cyfrifon a’r gyllideb.
Diolchodd Michael Gibbon am y croeso i’w gyfarfod cyntaf, gan nodi ei fod yn ymweld â’r Llyfrgell 17 Ionawr 2025.
Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Wrecsam ar brynhawn 6ed Mawrth a bore’r 7fed Mawrth. Rhennir mwy o fanylion gyda’r Ymddiriedolwyr unwaith y bydd y trefniadau yn ei lle.
PWYNTIAU I’W GWEITHREDU /MATERION ANGEN SYLW PELLACH
Gweithred | Cyfrifoldeb | Erbyn | Statws |
---|---|---|---|
Holiadur Archwiliad Risg | Mererid Boswell | Cylchredeg erbyn 31 Ionawr 2025 | ✓ |
Cynllun Gweithredu Argymhellion Beaufort / Strategaeth Newydd y Llyfrgell | |||
Drafftio cynllun gweithredu ar y gwaith o hyrwyddo’r Llyfrgell | Rhian Gibson | I’w gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd 7 Mawrth 2025 | ✓ |
Tendr yr Hafod | |||
Drafftio dogfen gwersi a ddysgwyd o’r prosiect | Mererid Boswell / Mark Stevens | I’w gyflwyno i’r Panel Adeiladau ar 6 Chwefror 2025 | ✓ |
Codi Arian | |||
Uwchraddiad ar y sefyllfa o ran cymynroddion a chodi incwm | Rhian Gibson / Richard Roberts | I’w gyflwyno yng nghyfarfod y Bwrdd 7 Mawrth 2025 | ✓ |
Cyllideb 2025/26 – 2027/28 | |||
Trafod y papur ar y Gyllideb yn ehangach | Mererid Boswell | Pwyllgor Cyllid ac Adnoddau 11 Chwefror 2025 | ✓ |