Symud i'r prif gynnwys

Amgylchedd Gweithredu

Rydym yn cyflwyno’r Cynllun Strategol hwn yn ystod cyfnod o heriau ariannol a heriau eraill, ac ar adeg pan fo cyfleoedd i’r Llyfrgell weithio’n gydweithredol ac yn uchelgeisiol er budd pobl Cymru.

Ni fydd yr heriau’n cilio dros nos, ac mae’r achos o blaid newid yn parhau i ni a’r holl bartneriaid sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae pob un ohonom yn dal i deimlo pwysau costau byw, ac mae cysgod y pandemig Covid yn parhau mewn sawl ffordd. Yn y Llyfrgell, rydym yn credu bod gennym lawer i’w gynnig o ran cefnogi cyrhaeddiad addysgol, safonau llythrennedd, ac o ran cefnogi iechyd meddwl, llesiant a chydlyniant cymdeithasol. Rydym hefyd yn gwybod am y manteision cadarnhaol i bobl o bob oed sy’n deillio o greadigrwydd a chyfleoedd i danio’r dychymyg drwy ddysgu a darganfod.

Rydym mewn cyfnod trosiannol wrth i dechnoleg ddatblygu gan effeithio ar fwy a mwy o agweddau ar ein bywydau. Ar yr un pryd, rydym i gyd yn dibynnu ar ddulliau cyfarwydd o ryngweithio ar lefel ddynol, leol a chymunedol. Yn ddiddorol, mae llyfrau a’r gair printiedig, am y tro, yn dal i apelio, ond mae defnydd cynyddol o’r sgrin a’r byd digidol yn ymddangos yn anochel.

Mae hefyd yn gyfnod o gymhlethdod ac ymlediad cynyddol o ran technoleg a gwybodaeth. Mae algorithmau a deallusrwydd artiffisial, cynnwys, curadu a chyrhaeddiad yn bynciau trafod dyddiol ymhlith crewyr, datblygwyr, llunwyr polisi, busnesau ac asiantaethau ym mhob sector. Un her amlwg yw’r angen i fynd i’r afael â lledaeniad camwybodaeth, twyllwybodaeth a’r gostyngiad yn statws ffynonellau gwybodaeth a ystyrid yn gyffredinol ar un adeg yn rhai dibynadwy ac awdurdodol.

Mae pobl ifanc, yn enwedig, wedi bod yn troi at bori cynnwys heb unrhyw rwystr, creu cynnwys newydd, rhannu ac addasu’n rhydd ac yn greadigol, a chodi eu deunydd crai o unrhyw ffynhonnell sydd ar gael ynghanol y penllanw hwn o ddata holl bresennol. Mae’r Llyfrgell wedi ymrwymo i gefnogi addysg, sgiliau, creadigrwydd a dealltwriaeth sydd i gyd yn hanfodol o fewn y cyfryngau lluosog a’r dilyw hwn o ddata, a byddwn yn gweithio gyda phob cenhedlaeth a chymuned sydd angen cymorth i lywio’u ffordd drwy’r oes wybodaeth ac i elwa o’i chyfleoedd galwedigaethol a chreadigol niferus.

Dyma pam ein bod yn rhoi cymaint o bwyslais ar hyrwyddo mynediad mor eang â phosibl i’r Casgliadau Cenedlaethol ac i’n harbenigedd, er mwyn datblygu ymgysylltu digidol ac ymgysylltu’n ehangach â phobl ifanc a chymunedau ym mhob rhan o Gymru. Dyma pam rydym yn angerddol dros rannu ein cynnwys, ac i’r weithred honno o rannu fod yn sgwrs gyda phobl Cymru sy’n gwella llesiant y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.


Y Llyfrgell yn 2030

  • Erbyn 2030, rydym yn benderfynol o fod yn sefydliad a fydd yn gyfarwydd, yn berthnasol ac yn hygyrch i bobl a chymunedau ledled Cymru. Bydd ein gwasanaethau a’r Casgliadau Cenedlaethol sydd yn ein gofal yn hygyrch a byddant yn gosod anghenion defnyddwyr wrth wraidd ein gwaith.
  • Byddd y Llyfrgell ar flaen y gad o ran trawsnewidiadau technolegol, a bydd yn cyflymu ac yn gwella ein gwasanaethau ac yn rhoi pwyslais enfawr ar brofiad defnyddwyr, gan roi sylw dyledus i seibergadernid a seiberddiogelwch. Bydd technoleg yn symud yn ei blaen, ond byddwn yn parhau i hyrwyddo’r gair ysgrifenedig ac argraffedig a phob math o gofnodion dogfennol, archifol a chlyweledol a grëwyd gan bobl Cymru ac am Gymru a’r genedl.
  • Bydd ymddiriedaeth a gonestrwydd yn bwysig ym meddyliau pobl yn eu perthynas â’r Llyfrgell, a byddwn yn cydweithio gydag ymchwilwyr ac addysgwyr i ddatblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol ac i lywio’r ffordd drwy’r oes wybodaeth.
  • Byddwn yn groesawgar i blant a theuluoedd ac yn gwella cynrychiolaeth o holl amrywiaeth cymunedau, pobl a diwylliant Cymru drwy roi mwy o amlygrwydd i leisiau a phrofiadau byw sydd wedi eu tangynrychioli. Bydd ein rhaglenni yn newid yn sylweddol i gyd-fynd â newidiadau sylfaenol i’r cwricwlwm ysgolion ac ym meysydd ymchwil a sgiliau.
  • Byddwn yn parhau i ymfalchïo yn ein hunaniaeth Gymreig nodweddiadol sy’n cefnogi pawb sy’n dymuno profi a mwynhau diwylliant cyfoethog Cymru, gan barchu a gwerthfawrogi diwylliannau a hunaniaethau cymunedau amrywiol Cymru. Bydd ein gwaith yn ymestyn y tu hwnt i Gymru, drwy bartneriaethau a gyda chymunedau buddiant, gan godi proffil Cymru ar draws y byd.
  • Byddwn yn parhau i ymfalchïo mewn bod yn sefydliad cenedlaethol sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gefnogi ei gweithwyr i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu gweithgareddau beunyddiol, ac i ddefnyddio’r cryfder hwn i gefnogi hunaniaeth ddiwylliannol Cymru.
  • Yn olaf, byddwn yn gwasanaethu’r bobl, gan gefnogi unigolion a chroesawu grwpiau a chymunedau ledled y wlad i ddefnyddio ac i elwa ar y ffynonellau a’r adnoddau helaeth yr ydym yn eu dal mewn ymddiriedaeth ar gyfer y genedl.

Datganiad Pwrpas

Sefydlwyd y Llyfrgell drwy Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Yna cafwyd Siarteri Atodol ym 1911 a 1978. Mae Siarter Atodol 2006 bellach yn nodi cenhadaeth a swyddogaethau craidd y Llyfrgell ynghyd â’i chyfansoddiad a’i llywodraethiant.

Wrth ddatblygu’r Cynllun Strategol newydd hwn roeddem am gyfleu ymdeimlad clir o bwrpas i’r Llyfrgell, ei chyfeiriad yn y dyfodol, ei gwerthoedd wrth gydweithio, a’i phenderfyniad i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn ehangach.

Arweiniodd hyn at greu’r Datganiad Pwrpas newydd hwn ar gyfer Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

“Ein pwrpas yw cydweithio â phobl Cymru i gadw, tyfu a rhannu cof a diwylliant y genedl. Gan ddefnyddio ein casgliadau a’n harbenigedd byddwn yn cysylltu â chymunedau, yn cynyddu gwybodaeth ac yn datblygu sgiliau a dysg.”


Sylfaen Dystiolaeth ac Ysgogwyr ‘Polisi’

Mae’r adran hon yn crynhoi rhai o’r prif ysgogwyr ar gyfer y Cynllun Strategol. Mae’r rhain yn cynnwys datblygiadau yng Nghymru a’r byd ehangach, yn ogystal â sylfaen dystiolaeth y Llyfrgell ei hun a chyfraniadau gan staff ac ymddiriedolwyr y Llyfrgell tuag at greu’r strategaeth.

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth arloesol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a deng mlynedd yn ddiweddarach, mae'n parhau i ddenu clod ac edmygedd am fod yn ddull ar gyfer datblygiad cynaliadwy er lles pawb. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ganllaw pwysig i bob partner sy'n gweithio yng Nghymru - ac mae ei Llythyr Cylch Gorchwyl ar gyfer y Llyfrgell yn ganolog i'n cynllunio.

Mae’r Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant yn ganolog i'n cenhadaeth. Mae hyn yn cynnwys democrateiddio diwylliant, datblygu a diogelu'r Casgliadau Cenedlaethol, sgiliau'r gweithlu, amrywiaeth a'r iaith Gymraeg, isadeiledd digidol ac ymgysylltu. Rydym yn cydnabod lle gallwn ni a phartneriaid yn y sector wella a chymryd mwy o gyfrifoldeb am gyflawni blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru gan gynnwys Cynllun Gweithredu Gwrth-Hiliol Cymru a Cymraeg 2050.

Mae’r Adolygiad Teilwredig ac asesiadau eraill o’r Llyfrgell a phartneriaid eraill wedi llywio’r Cynllun Strategol o ran rhoi pwyslais ar ymgysylltu ac ehangu apêl y Llyfrgell. Mae ffocws allweddol ar greu incwm masnachol a chodi arian drwy roddion a gwneud y mwyaf o’r potensial ar gyfer incwm grant. Yn yr un modd, mae rôl partneriaethau allanol mewn ystod o feysydd yn cael ei phwysleisio yn yr Adolygiad Teilwredig, yn ogystal â’r angen i addasu yn wyneb gofynion sy’n newid.

Mae data ac ymchwil yn hanfodol i lywio datblygiadau – mae’r data meintiol ac ansoddol yn rhoi cyfeiriad i wasanaethau ar gyfer darllenwyr ac ymchwilwyr, ac mae ein ffigurau yn dangos sut rydym yn cynyddu’r cyfleoedd cyfranogol a’n gweithgareddau ymgysylltu allanol.

Mae hyn yn ganolog i raglenni wyneb yn wyneb yn ogystal â gwasanaethau digidol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cynnydd ardderchog wedi bod mewn ymgysylltiad digidol, ac rydym yn canolbwyntio ar brofiad y defnyddiwr ac anghenion ac ymddygiadau defnyddwyr ar draws y gwahanol ffyrdd o ryngweithio â’r casgliadau a’r Llyfrgell.

Mae ymchwil cynulleidfa yn dangos lefelau uchel iawn o foddhad ymhlith defnyddwyr sy’n adnabod ac yn dychwelyd i’r Llyfrgell dro ar ôl tro, a’r ffocws i ni yw ehangu ein cynulleidfaoedd er mwyn sicrhau bod pob rhan o’n cymunedau yn gallu ymgysylltu â’n gwasanaethau, cael mynediad atynt a’u mwynhau.

Mae cyfranogiad staff, ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr undebau llafur (gan ddefnyddio’r model Partneriaeth Gymdeithasol) wedi darparu negeseuon pwysig i’r sefydliad wrth iddo baratoi’r Cynllun Strategol. Mae’r rhain yn cynnwys pwysigrwydd cynllunio ar gyfer olyniaeth, buddsoddi yn natblygiad a llesiant staff, hyblygrwydd ac amrywiaeth, cynnal ein safle fel cyflogwr sy’n ymroddedig i’r Gymraeg, a pharhau i fod yn sefydliad sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’r Llyfrgell yn ffodus bod gan y rhanddeiliaid hanfodol hyn lefel uchel iawn o ymrwymiad i ddyfodol y sefydliad.

Mae data ac ymchwil yn hanfodol i lywio datblygiadau – mae’r data meintiol ac ansoddol >yn rhoi cyfeiriad i wasanaethau ar gyfer darllenwyr ac ymchwilwyr, ac mae ein ffigurau yn dangos sut rydym yn cynyddu’r cyfleoedd cyfranogol a’n gweithgareddau ymgysylltu allanol. Mae hyn yn ganolog i raglenni wyneb yn wyneb yn ogystal â gwasanaethau digidol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cynnydd ardderchog wedi bod mewn ymgysylltiad digidol, ac rydym yn canolbwyntio ar brofiad y defnyddiwr ac anghenion ac ymddygiadau defnyddwyr ar draws y gwahanol ffyrdd o ryngweithio â’r Casgliadau a’r Llyfrgell. Mae ymchwil cynulleidfa yn dangos lefelau uchel iawn o foddhad ymhlith defnyddwyr sy’n adnabod ac yn dychwelyd i’r Llyfrgell dro ar ôl tro, a’r ffocws i ni yw ehangu ein cynulleidfaoedd er mwyn sicrhau bod pob rhan o’n cymunedau yn gallu ymgysylltu â’n gwasanaethau, cael mynediad atynt a’u mwynhau.

Mae cyfranogiad staff, ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr undebau llafur (gan ddefnyddio’r model Partneriaeth Gymdeithasol) wedi darparu negeseuon pwysig i’r sefydliad wrth iddo baratoi’r Cynllun Strategol. Mae’r rhain yn cynnwys pwysigrwydd cynllunio ar gyfer olyniaeth, buddsoddi yn natblygiad a llesiant staff, hyblygrwydd ac amrywiaeth, cynnal ein safle fel cyflogwr sy’n ymroddedig i’r Gymraeg, a pharhau i fod yn sefydliad sy’n gweithredu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Llyfrgell yn ffodus bod gan y rhanddeiliaid hanfodol hyn lefel uchel iawn o ymrwymiad i ddyfodol y sefydliad.