Symud i'r prif gynnwys

Cyffredinol

Beth mae'r casgliad yn ei gynnwys?

Mae’r Ddeiseb Heddwch yn cynnwys tua 390,296 o enwau a chyfeiriadau wedi’u cofnodi ar tua 7500-8000 o daflenni deiseb o leoliadau ledled Cymru. Mae’r Ddeiseb wedi’i threfnu mewn 33 o focsys dogfen. Yn gyffredinol, er bod dalennau deiseb o'r un ardal wedi cael eu grwpio gyda'i gilydd, nid yw'r ddeiseb wedi'i threfnu'n ddaearyddol fel casgliad. Mae dalennau o wahanol siroedd o fewn yr un bocs ac mae yna hefyd setiau o ddalennau o'r un ardal mewn bocsys ar wahân.

 

A yw’r casgliad cyfan ar gael?

Mae cynnwys y bocsys yn cael eu hychwanegu'n raddol at y wefan i gyd-fynd â'r gwaith a gwblhawyd ac a adolygwyd ar y llwyfan torfoli.

 

Beth yw statws hawlfraint y ddeiseb?

Mae cyfreithiau hawlfraint arferol yn berthnasol.

 

Data'r ddeiseb

Prosiect torfoli yw hwn, ac nid yw'r data wedi'i ddilysu eto. Sylwch y byddwch yn dod o hyd i ddyblygion.

 

Rhoddion

Bydd rhai canlyniadau hefyd yn cynnwys rhoddion a roddwyd tuag at ymgyrch y Ddeiseb Heddwch a gwaith ehangach Undeb Cynghrair y Cenhedloedd Cymru.

Chwilio

Sut gallaf chwilio drwy'r Deisebau?

Gallwch chwilio'r safle drwy ddefnyddio'r blwch chwilio allweddair ar dudalen gatref Deiseb Heddwch Menywod Cymru.

Awgrymiadau:

  • Gallwch ddefnyddio gorchmynion Boolean i gyfyngu'ch canlyniadau (gweler isod i ddysgu mwy am orchmynion Boolean)
  • Os ydych yn chwilio am ddau neu fwy o allweddeiriau penodol sy'n ymddangos gyda'i gilydd ee Mary Jones, cofiwch ddefnyddio "" o gwmpas y termau - "Mary Jones". Bydd hyn yn sicrhau mai dim ond canlyniadau sy'n cynnwys eich union dermau chwilio y byddwch yn eu gweld.
  • Bydd chwilio am ddau neu fwy o dermau chwilio heb "" (ee Mary Jones) yn dychwelyd canlyniadau sy'n cynnwys cyfuniad o Mary, Jones a Mary Jones, gan roi rhestr ganlyniadau tipyn hirach.

Beth yw'r gorchmynion Boolean?

Gorchmynion sy'n eich galluogi i gyfuno termau chwilio er mwyn ehangu neu gyfyngu'ch chwiliad yw'r rhain. Mae'r termau a ddefnyddir yn y catalog hwn yn cynnwys A, NEU, a NID. Gellir defnyddio rhain wrth gynnal Chwiliad Uwch.

  • Bydd A yn cyfuno dau neu fwy o allweddeiriau, gan gyfyngu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes A Cymru yn dychwelyd canlyniadau sy'n cynnwys y ddau derm chwilio, e.e. Hanes Cymru
  • Bydd NEU yn dychwelyd canlyniadau gyda'r naill derm chwilio neu'r llall yn y teitl, gan ehangu'ch chwiliad, er enghraifft: Bydd Hanes NEU Cymru yn dychwelyd canlyniadau gan gynnwys Hanes Cymru a Hanes Plwyf Ffestiniog
  • Bydd NID yn hepgor term o'ch chwiliad, gan ei wneud yn fwy penodol, er enghraifft: Bydd Davies, John NID Hanes Cymru yn dychwelyd â rhestr o weithiau gan John Davies nad sy'n cynnwys Hanes Cymru.

A allaf weld cofnod o fy nhermau chwilio blaenorol?

I weld rhestr o'ch termau chwilio blaenorol (dim ond ar gyfrifiadur), cliciwch ar y ddolen 'Hanes Chwilio' yn y brif ddewislen.

Gallwch glirio eich termau chwilio drwy glicio ar y ddolen 'Clirio Hanes Chwilio' ar waelod y rhestr.

Sut allaf ddechrau chwiliad newydd? 

I ddechrau chwiliad newydd cliciwch ar y botwm 'Chwiliad Newydd' yn y brif arlwy. Bydd hwn yn eich tywys yn ôl i'r dudalen flaen lle gwelir y brif ffurflen chwilio.

Pam wnaeth pobl lofnodi gyda ‘X’ a sut mae dod o hyd iddynt?

Nid ydym yn hollol siŵr beth mae’r ‘x’ yn ei gynrychioli, ond gallai’r ‘x’ fod yn ffordd a ddefnyddiwyd i ddangos anllythrennedd ar ran y sawl a lofnododd neu gallai fod wedi bod yn ffordd i’r trefnwyr gadw cofnod o'r cyfeiriadau y buont yn ymweld â nhw.  

Ar y dudalen ganlyniadau ceir hidlydd 'Llofnodwyd gyda 'X''yn y golofn chwith. Gellir defnyddio'r hidlydd er mwyn gweld canlyniadau perthnasol.

Amrywiadau mewn sillafiadau enwau personol

Wrth chwilio am enw, mae'n werth rhoi cynnig ar wahanol sillafiadau (fel Ann yn lle Anne) neu amrywiadau byrrach o enw (fel Liz yn lle Elizabeth) i sicrhau eich bod yn gweld yr holl ganlyniadau perthnasol.

Chwilio am gyfeiriadau

Gallwch ddefnyddio’r blwch chwilio ‘Chwilio am gyfeiriad’ i ddod o hyd i gyfeiriad neu leoliad penodol. Drwy nodi enw stryd neu leoliad yn y maes hwn, byddwch yn gallu dod o hyd i’r cyfeiriad rydych yn chwilio amdano. Cofiwch nad yw pob cyfeiriad a nodwyd yn y ddeiseb yn cynnwys manylion y dref, ond mae'r rhan fwyaf o gyfeiriadau yn cynnwys enw stryd neu bentref.

Os na fu eich chwiliad cychwynnol  yn llwyddiannus, mae’n werth chwilio am amrywiadau yn sillafiad eich cyfeiriad er mwyn sicrhau bod eich canlyniadau chwilio yn dychwelyd rhestr o’r holl gyfeiriadau posib yn yr ardal yr ydych wedi bod yn chwilio amdano.

Unwaith y byddwch wedi chwilio am enw lle, mae'n bosibl hidlo cofnodion fesul sir a wardiau cymunedol modern. Yn yr un modd, gallwch ddefnyddio’r map ar y dudalen gartref sy’n cynnwys y siroedd a’r wardiau cymunedol a chlosio mewn i ardal sydd o ddiddordeb i chi er mwyn cyfyngu'ch canlyniadau. Gallwch wedyn ddefnyddio ‘Chwilio o fewn y canlyniadau hyn’ i gyfyngu'ch canlyniadau hyd yn oed ymhellach.

Gall y maes cyfeiriad hefyd gynnwys cyfeiriadau y tu allan i Gymru ar gyfer menywod a oedd yn ymweld ac a lofnododd y ddeiseb. Mae’r cyfeiriadau hyn wedi’u grwpio gyda’i gilydd fel ‘Tu allan i Gymru’ yn yr hidlydd ‘Ward Gymunedol’ a ‘Sir’.

Canlyniadau chwilio

Pa wybodaeth sy'n cael ei arddangos ar gyfer pob canlyniad?

  • Dolen: Bydd y ddolen yn cynnwys enw a chyfeiriad​​​​​​​
  • Delwedd: Dyma ddelwedd o'r cofnod yn y ddeiseb
  • Gwybodaeth i'r dde/o dan o bob delwedd. Mae hyn yn cynnwys:
    • Sir (siroedd modern)
    • Ward Gymunedol (wardiau cymunedol modern)
    • Rhif bocs
    • Rhif deiseb
    • Rhif tudalen

Beth yw'r rhifau bocs a rhifau deiseb?

Mae rhif y bocs a'r ddeiseb yn cynrychioli lleoliad corfforol yr eitem o fewn y casgliad yn ystod y broses gatalogio.

Sut fedraf newid nifer y canlyniadau a arddangosir?

Ar frig y canlyniadau chwilio (y gornel dde ar gyfrifiadur), fe welwch y gwymplen 'Trefnu' sy'n eich galluogi i newid nifer y canlyniadau sy'n cael eu harddangos.

Sut fedraf newid trefn y canlyniadau?

Ar frig y canlyniadau chwilio (y gornel dde ar gyfrifiadur), fe welwch y gwymplen 'Trefnu' sy'n eich galluogi i newid nifer y canlyniadau sy'n cael eu harddangos.

Sut gallaf fireinio fy nghanlyniadau?

Mae'r golofn chwith (uwchben y canlyniadau ar ddyfais symudol) yn cynnwys hidlwyr, a gellir defnyddio'r rhain i gyfyngu nifer y canlyniadau a ddangosir.

Mae'r hidlwyr yn cynnwys:

  • Sir (siroedd modern)
  • Ward Gymunedol (wardiau cymunedol modern)
  • Llofnodwyd gyda 'X'
  • Rhif bocs
  • Rhif deiseb
  • Rhif tudalen

Cliciwch ar yr eitem perthnasol o fewn yr hidlwyr i gyfyngu eich canlyniadau, mi fyddant yn uwchraddio yn awtomatig.

Gellir newid yr hidlwyr a ddewiswyd trwy glicio arnynt eto i'w 'dad-ddewis'

Gellir clirio'r hidlwyr i gyd gyda'i gilydd trwy glicio ar y botwm 'Clirio Dwisiadau' ar frig y golofn.

Awgrymiadau:

Po fwyaf o'r hidlwyr y gallwch eu defnyddio i fireinio'ch chwiliad, y mwyaf perthnasol fydd eich canlyniadau chwilio, ac felly yr hawsaf fydd hi i chi ddod o hyd i gofnodion defnyddiol.

A allaf chwilio o fewn fy nghanlyniadau chwilio?

Gallwch. Ceir blwch chwilio sy'n cynnwys y geiriau 'Chwilio o fewn y canlyniadau hyn' uwchben yr hidlwyr.

Awgrymiadau:

Bydd y chwiliad hwn yn seiliedig ar y canlyniadau sydd gennych eisioes, fel modd o gyfyngu'ch canlyniadau. Os hoffech chi ddechrau chwiliad newydd cliciwch ar y botwm 'Chwiliad Newydd'. Bydd hyn yn eich tywys yn ôl i'r dudalen flaen lle gallwch ddefnyddio'r ffwythiant chwilio.

A fedraf gadw fy chwiliadau?

Cedwir eich 5 chwiliad diwethaf yn awtomatig. Gellir gweld y rhain (ar gyfrifiadur yn unig) trwy glicio ar y botwm 'Hanes Chwilio' yn y ddewislen uchaf.

Awgrymiadau:

Gallwch glirio'ch chwiliadau os oes angen trwy glicio ar y ddolen 'Clirio Hanes Chwilio' ar waelod y rhestr.

Defnyddio'r map ar y dudalen flaen

Gweld llofnodion o fewn Sir fodern

Mae'r map ar y dudalen gartref yn dangos siroedd cyfredol Cymru ynghyd â nifer y llofnodion a gasglwyd ym mhob sir. I archwilio pob llofnod o fewn sir benodol, cliciwch ar y sir honno.

Gweld llofnodion o fewn Wardiau Cymunedol Modern

Wrth i chi glosio ar y map, fe welwch ffiniau manwl yr holl Wardiau Gymunedol yng Nghymru. I weld yr holl lofnodion sy'n gysylltiedig â Ward Gymunedol benodol, cliciwch ar y ward honno.

Closio/Pellhau

Gallwch glosio i mewn ac allan ar y map gan ddefnyddio olwyn sgrolio eich llygoden, drwy binsio i glosio ar ddyfais symudol, neu drwy glicio ar y botymau plws '+' a minws '-' sydd wedi'u lleoli ar y map.

Canlyniadau y tu allan i Gymru

Er bod mwyafrif y llofnodwyr yn fenywod o Gymru, roedd rhai menywod o du allan i Gymru hefyd wedi cefnogi’r ddeiseb. Fodd bynnag, nid yw'r manylion sydd gennym am y menywod hyn a'u hunion niferoedd mor gyflawn o gymharu â'r hyn ddogfennwyd am yr ymdrech gyffredinol a fu yng Nghymru.

I weld y llofnodion hyn gallwch:

Glicio ar y botwm ‘Tu allan i Gymru’ ar fap y dudalen gartref

NEU

O fewn y canlyniadau chwilio, hidlwch eich lleoliad yn ôl y Sir a/neu’r Ward Gymunedol ‘Tu allan i Gymru’

 Fodd bynnag, nid yw manylion penodol am y menywod hyn a’u hunion niferoedd wedi’u dogfennu cymaint o gymharu â’r ymdrech gyffredinol a arweinir gan fenywod Cymru.

Gweld y ddeiseb

Sut gallaf weld y deisebau ar sgrin lawn?

Cliciwch ar y ddolen yng nghornel dde isaf y Syllwr sy'n dweud 'Sgrin lawn' gydag eicon o saeth mewn sgwar.

Sut gallaf glosio a gwrthglosio wrth edrych ar ddeiseb?

Ar gyfrifiadur: 

  • Gan ddefnyddio olwyn sgrolio eich llygoden

  • Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac fe welwch eiconau'n ymddangos yng nghornel chwith uchaf yr ardal ddu o amgylch y ddelwedd. Cliciwch ar y '+' i glosio a'r '-' i wrthglosio.

Ar ddyfais symudol:  

  • Drwy binsio i glosio gyda'ch bysedd. 

 

Sut y gallaf droi'r ddelwedd?

Ar gyfrifiadur: Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac fe welwch eiconau'n ymddangos yng nghornel chwith uchaf yr ardal ddu o amgylch y ddelwedd. Cliciwch ar yr eicon sydd â hanner cylch a saeth i droi'r ddelwedd (bydd yn troi chwarter troad gyda'r cloc bob tro).

Ar ddyfais symudol: Cliciwch ar y saeth gylchog ar waelod y Syllwr i gylchdroi'r ddelwedd (bydd yn troi chwarter troad gyda'r cloc bob tro).

 

Sut y gallaf symud i'r dudalen nesaf/flaenorol?

Ar gyfrifiadur: Symudwch y lygoden dros y ddelwedd ac fe welwch saeth fechan yn ymddangos bob ochr i'r ddelwedd. Cliciwch ar y saeth ar yr ochr dde i symud i'r dudalen nesaf, a'r saeth ar yr ochr chwith i symud nôl i'r dudalen flaenorol.

Ar ddyfais symudol, bydd y saethau hyn eisoes yn cael eu harddangos ar y sgrin.

 

Sut y gallaf weld mwy nag un tudalen ar yr un pryd? 

Ar gyfrifiadur,  wrth edrych ar ddeiseb gallwch ddewis i weld un neu ddwy dudalen ar y tro. Yng nghornel uchaf dde y syllwr, o dan y llinell las, cliciwch ar yr eicon sy'n edrych fel llyfr agored - bydd hwn yn arddangos dwy dudalen ar y tro. 

Awgrymiadau:

I ddychwelyd yn ôl i arddangos un dudalen ar y tro, cliciwch ar yr eicon eto (bydd yr eicon yn awr yn dangos un dudalen).

 

Sut gallaf weld gwybodaeth berthnasol wrth i mi edrych ar y ddeiseb?

Gellir dod o hyd i wybodaeth gysylltiedig yn y panel 'MWY O WYBODAETH' ar ochr dde'r sgrin ar gyfrifiadur, neu drwy glicio ar y botwm gwybodaeth ‘i’ ar waelod ffenestr y Syllwr ar ddyfais symudol.

Awgrymiadau:

Gallwch gau'r panel ar y cyfrifiadue os ydych yn dymuno drwy glicio ar y ddwy saeth yng nghornel chwith uchaf y panel. Os hoffech ei weld eto, cliciwch ar y ddwy saeth ar frig y panel scaeedig. Bydd y botwm ‘cau’ ar y sgrin symudol yn cau’r ffenestr hon.

 

Lle gallaf ddod o hyd i wybodaeth priodoli am y ddeiseb?

Gellir dod o hyd i wybodaeth priodoli yn y panel 'MWY O WYBODAETH' ar ochr dde sgrin y cyfrifiadur neu drwy glicio ar y botwm gwybodaeth ‘i’ ar waelod ffenestr y Syllwr ar ddyfais symudol.

 

A oes dolen barhaol ar gyfer y ddeiseb rwy'n edrych arni?

Oes. Fe welwch y ddolen barhaol yn y golofn dde 'MWY O WYBODAETH' o dan y pennawd 'Dolen barhaol' neu drwy glicio ar y botwm gwybodaeth ‘i’ ar waelod ffenestr y Syllwr ar ddyfais symudol.

Awgrymiadau:

Os hoffech chi wneud nodyn o'r ddolen at un o'r deisebau, y ffordd orau o wneud hyn yw defnyddio'r 'Ddolen Barhaol' yn hytrach na'r cyfeiriad a geir ar frig eich porwr (gall y cyfeiriadau hyn newid dros amser).

Lawrlwytho ac argraffu tudalen o'r ddeiseb

Lawrlwytho deiseb

Gellir lawrlwytho tudalennau unigol o’r ddeiseb o’r Syllwr drwy glicio ar y botwm ‘LAWRLYWTHO’ yn y ddewislen ar waelod y sgrin.

Sut fedraf argraffu copïau o'r ddeiseb?

Ar ôl i chi lawrlwytho tudalen o'r ddeiseb, gallwch argraffu’r dudalen honno ar unrhyw argraffydd o’ch dewis.