Symud i'r prif gynnwys

Ysgoloriaeth ymchwil Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) AHRC: Y Celfyddydau, Gweithredu a Hygyrchedd: Celfyddydau Anabledd yng Nghymru, 1980 hyd heddiw

Mae Prifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod ysgoloriaeth ymchwil sydd wedi’i hariannu’n llawn ar gael o fis Hydref 2024 o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC.

Mae testun y Ddoethuriaeth hon yn archwilio sut mae bywydau diwylliannol pobl fyddar ac anabl yng Nghymru wedi newid dros y deugain mlynedd ddiwethaf. Mae’n archwilio’r ffyrdd y mae celfyddydau anabledd wedi cyfrannu at drefniadaeth gymdeithasol pobl fyddar ac anabl ac yn gofyn beth mae gweithiau creadigol yn ei ddweud wrthym am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn anabl yng Nghymru. Mae’r ddoethuriaeth yn cynnig cyfle unigryw i weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru i gynorthwyo Celfyddydau Anabledd Cymru i gadw ac ehangu mynediad i’w harchif, ac i weithio ar y cyd i ddod â stori celfyddydau anabledd yng Nghymru i gynulleidfaoedd newydd.

Mae’r dyfarniad AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y gyfradd gartref amser llawn UKRI ar gyfer graddau doethuriaeth a chynhaliaeth lawn i bob myfyriwr. Yr Isafswm Cyflog Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2024/25 yw £19,237 (yn codi yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynnal a chadw CDP o £600 y flwyddyn.

Bydd disgwyl i'r myfyriwr llwyddiannus dreulio amser ym Mhrifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n ofynnol ar gyfer yr ysgoloriaeth hon. Ni fyddai’r myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyddiad cau:  Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm BST ar 13 Mai 2024. 

Sut i wneud cais: Gwnewch gais ar-lein ar gyfer y prosiect hwn drwy System Ymgeisio Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk).