Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Dyddiadau: 2011-2015
Ymchwilydd: Dr Gareth Lloyd Roderick
Partner academaidd: Yr Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth
Goruchwylwyr: Yr Athro Robert Meyrick (Yr Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth), Yr Athro Lorna Hughes (Cadair Prifysgol Cymru mewn Casgliadau Digidol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru)
Nawdd: Ysgoloriaeth Sgiliau yr Economi Wybodaeth (KESS) wedi’i hariannu gan Raglen Cydgyfeiriant y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Amlinelliad o’r prosiect:
Roedd y prosiect hwn yn defnyddio syniadau ynghylch gofod, lle a thirwedd i archwilio gwaith Kyffin Williams; ei berthynas gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru a safle’r arlunydd o fewn i ganon hanes celf Gymreig. Roedd yr ymchwiliad hwn yn sail i ddatblygu prototeip adnodd digidol i arddangos Casgliad Cymynrodd Syr Kyffin Williams, a oedd wedi ei gadw a’i ddigido yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Trwy wneud hynny, roedd y prosiect yn ymdrin â’r cyfyngiadau o ddefnydd ymchwil o weithiau celf a oedd wedi eu hatgynhyrchu a’r defnydd o ddulliau digidol yn benodol i ddehongli diwylliant gweledol. Yn ystod y prosiect, cyflwynodd Lloyd Roderick ei ymchwil ar gasgliadau celf y Llyfrgell Genedlaethol mewn cynadleddau gan gynnwys Cynhadledd Flynyddol Cymdeithas y Llyfrgelledd Celf (Caerdydd, 2015); Yale Center for British Art (Wales – Ial – Yale Symposium, 2014); Global iSchool yn yr International Conference on Theories & Practices of Digital Libraries (Valletta, 2013); Cynhadledd Computers & History of Art Annual (Llundain, 2012), yn ogystal â sgyrsiau cyhoeddus yn Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Traethawd ymchwil: Kyffin Williams Online: presenting and interpreting art in a digital context
Cyhoeddiadau perthnasol i’r prosiect:
Dee, H., Hughes, L., Roderick, G.L., Brown, A.D. 2016. ‘Visual digital humanities: using image data to derive approximate metadata.’ In A. Foster., P. Rafferty. (eds) Managing Digital Cultural Objects: Analysis, discovery and retrieval. Facet Publishing, London pp. 89-110.
Cusworth, A., Hughes, L.M., James, R., Roberts, O., Roderick, G.L. 2015. ‘What Makes the Digital ‘Special’? The Research Program in Digital Collections at the National Library of Wales.’ New Review of Academic Librarianship 21 (2) pp. 241-248. Other
Roderick, G.L. 2014. ‘Kyffin Williams online: creating a digital resource for an art collection at the National Library of Wales.’ Art Libraries Journal 39 (01) pp. 5-9.
Brown, A., Roderick, G.L., Dee, H.M., Hughes, L. 2013. ‘Can we date an artist's work from catalogue photographs?’ 8th International Symposium on Image and Signal Processing and Analysis (ISPA). 8th International Symposium on Image and Signal Processing and Analysis (ISPA), Trieste, Italy, 04/09/2013 - 06/09/2013. IEEE Press pp. 558-563.
Roderick, G.L. 2013. Celf yn Oes yr Atgynhyrchiad Digidol. Tu Chwith 38 pp. 65-69.