Symud i'r prif gynnwys

Ysgoloriaeth ymchwil Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol (CDP) AHRC – Augustus John: Ail-asesu casgliadau Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae Prifysgol Bryste, Prifysgol Aberystwyth, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi ysgoloriaeth a ariennir yn llawn o fis Hydref 2024 o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol AHRC.

Roedd yr artist o Gymru, Augustus John (1878–1961) yn ffigwr blaenllaw mewn mudiadau modernaidd Prydeinig ac Ewropeaidd. Bydd yr ysgoloriaeth hon yn ei ail-werthuso’n feirniadol fel ffigwr o’i gyfnod, ac yn ymhelaethu ar y drafodaeth am ei arwyddocâd heddiw. Bydd yn canolbwyntio yn bennaf ar y casgliadau sylweddol yn Amgueddfa Cymru (sef y casgliad mwyaf a mwyaf cynhwysfawr o waith Augustus John yn y byd) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus fynediad arbennig at yr adnoddau hyn sydd ddim yn cael digon o ddefnydd ar hyn o bryd, gan gyflwyno deunydd newydd i drafodaethau sy’n hanfodol ar gyfer ail-ddadansoddi moderniaeth, ac ar gyfer canfyddiadau newidiol o Augustus John.

Mae’r wobr AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at werth cyfradd gartref llawn amser UKRI ar gyfer graddau PhD a chostau cynhaliaeth llawn ar gyfer pob myfyriwr. Y Cyflog Doethurol Cenedlaethol Isaf ar gyfer 2023/24 yw £19,237 (yn codi yn unol â UKRI) yn ogystal â thaliad cynhaliaeth CDP o £600 y flwyddyn. 

Bydd disgwyl i’r myfyriwr llwyddiannus dreulio amser ym Mhrifysgol Bryste, Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yw’n hanfodol ar gyfer y project hwn. Ni fyddai’r myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff yn Amgueddfa Cymru na Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dyddiad Cau: Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm BST ar 31 Mai.
Sut i wneud cais: Cyflwynwch gais ar-lein ar gyfer y project drwy Prifysgol Bryste (Saesneg yn unig)