Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Dyddiadau: 2012-2015
Ymchwilydd: Dr Andrew Cusworth
Partner academaidd: Y Brifysgol Agored
Goruchwylwyr: Yr Athro Trevor Herbert, Yr Athro Lorna Hughes
Nawdd: Grant Bloc Adeiladu Capasiti AHRC
Amlinelliad o’r prosiect:
Fel cyfuniad o brototeip adnodd digidol a chydymaith ysgrifenedig, roedd yr ymchwil hwn yn gweithredu ac asesu rhai o’r posibiliadau a’r golygon y mae dulliau a dynesiadau yn y dyniaethau digidol yn eu cynnig i’r astudiaeth o hanes cerddoriaeth draddodiadol. Roedd yr adnodd digidol yn gweithredu fel mynegai anodiedig o sampl o ffynonellau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn defnyddio dolenni gwe a mapio daearyddol i fynegi’r cysylltiadau rhwng ffynonellau, ffigyrau perthnasol, a gwybodaeth dderbyn perthnasol gerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Yn syniadaethol, roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar bynciau daearyddiaeth ddiwylliannol, hunaniaeth genedlaethol, y cof cynulliadol, archif, a’r croestoriad rhyngddynt a’i gilydd a gyda cherddoriaeth. Yn gerddolegol, roedd yr ymchwil yn canoli ar olion o gerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn yr archif a sefydlwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, a’r integrediddiad a’r rhyng-gyfeirio rhwng yr olion hyn mewn gofod rhithiol er mwyn ystyried cerddoriaeth draddodiadol Gymreig a’r gofnod materol fel gweithgaredd diwylliannol lleoliedig. Ceir mynediad at yr adnodd digidol ar wefan Andrew Cusworth.
Yn ogystal â’r traethawd PhD, cyflwynwyd y prosiect ymchwil a’i ddarganfyddiadau mewn nifer o ddigwyddiadau gan gynnwys cynadleddau (Music in Nineteenth Century Britain, Caerdydd 2013; Ethnomusicology in the digital age, Belfast, 2013; Cynhadledd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, 2015), sgyrsiau cyhoeddus (Echoes & Amplifications, NLW, 2014), a seminar (Towards a digital land of song, NLW, 2015).
Cyhoeddiadau perthnasol i’r prosiect:
Cusworth, A., ‘Alawon Gwerin Môn: towards a reception history’, Canu Gwerin, 2017.
Cusworth, A., Hughes, L.M., James, R., Roberts, O., Roderick, G.L. 2015. ‘What Makes the Digital ‘Special’? The Research Program in Digital Collections at the National Library of Wales.’ New Review of Academic Librarianship 21 (2) pp. 241-248.