Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fyddwn ni'n gallu cyrchu ein holl ddeunydd archifol rhwng 26 - 29 Mawrth 2025. Os fyddwch chi'n ymweld yn ystod y cyfnod hwn, gofynwn i chi archebu unrhyw ddeunydd archifol cyn 26 Mawrth os gwelwch yn dda. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae Prifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi bod ysgoloriaeth ymchwil sydd wedi’i hariannu’n llawn ar gael o fis Hydref 2024 o dan Gynllun Partneriaeth Ddoethurol Gydweithredol yr AHRC.
Bob blwyddyn yn ddi-ffael ers 1922, mae neges Heddwch ac Ewyllys Da wedi cael ei darlledu i’r byd yn enw plant Cymru. Gan ddatblygu mewn ymateb i drais y Rhyfel Byd Cyntaf ac i gefnogi heddwch rhyngwladol, darlledwyd y Neges Ewyllys Da yn fyd-eang ac fe ysgogodd ymatebion gan bobl ifanc mewn gwledydd ledled y byd. Mae’r prosiect cydweithredol arloesol hwn yn rhoi blaenoriaeth i bobl ifanc a bydd yn manteisio ar gasgliadau cyfoethog Llyfrgell Gendlaethol Cymru i ymchwilio hanner can mlynedd cyntaf Neges Ewyllys Da (1922-1972) yn systematig.
Mae’r dyfarniad AHRC yn talu ffioedd dysgu hyd at werth y gyfradd gartref amser llawn UKRI ar gyfer graddau doethuriaeth a chynhaliaeth lawn i bob myfyriwr. Yr Isafswm Cyflog Doethurol Cenedlaethol ar gyfer 2024/25 yw £19, 237 (yn codi yn unol ag UKRI) ynghyd â thaliad cynnal a chadw CDP o £600 y flwyddyn.
Bydd disgwyl i'r myfyriwr llwyddiannus dreulio amser ym Mhrifysgol Abertawe a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae’r gallu i ddarllen y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer yr ysgoloriaeth ymchwil yma. Ni fyddai’r myfyriwr yn cael ei gyflogi fel aelod o staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cau: Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm BST ar 13 Mai 2024.
Sut i wneud cais: Gwnewch gais ar-lein ar gyfer y prosiect hwn drwy System Ymgeisio Prifysgol Abertawe (swansea.ac.uk).