Symud i'r prif gynnwys

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English)

Rhagair

Mae’r cynllun strategol hwn yn ein tywys o 2021 hyd at 2026. Mae’n gynllun uchelgeisiol sy’n rhoi ffocws a chyfeiriad sy’n eglur, yn gydlynus ac yn gosod blaenoriaethau i bawb sy’n ymwneud â’r sefydliad dros y pum mlynedd nesaf.

Er i ni wneud cynnydd arwyddocaol dros y blynyddoedd, rydym yn dechrau’r bennod newydd hon gyda phenderfyniad ac awch i gyflawni mwy eto. Mae ein cynllun yn anelu at ddyfodol ble byddwn yn parhau i ddefnyddio ein hystod unigryw o sgiliau ac arbenigedd i feithrin a gofalu am gof y genedl, gosod sylfaen economi gwybodaeth, grymuso ymchwil a dysg, a bod yn ganolog i fywyd y genedl.

Byddwn yn cyflawni ein huchelgais trwy ymroi i fod yn sefydliad agored, blaengar ac arloesol. Dyma’r unig ffordd y byddwn yn creu llyfrgell i Gymru a’r byd.
Mewn cyfnod o heriau aruthrol ond cyfleon anferthol, rydym yn ffodus bod gennym gyfoeth ein hanes a’n diwylliant ac ymdeimlad o bwrpas clir yn sylfaen i'r cynllun hwn. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i gyfran helaeth o gof y genedl. Mae’n gronfa anferthol o wybodaeth ac yn ganolbwynt i weithgaredd sy’n grymuso pobl Cymru ag ymwybyddiaeth ddofn o'u gorffennol, dealltwriaeth o’r presennol, ac ysbrydoliaeth i lunio eu dyfodol.

Mae ein cynllun yn atgyfnerthu’r hyn sydd eisoes yn gwneud Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn arbennig: y modd rydyn ni’n dathlu amrywiaeth y profiad Cymreig, ein hymroddiad i gyfrifoldeb cymdeithasol, ein graddfa ac ehangder, diwylliant o gydweithio ac arloesedd, a’n lleoliad diguro.

Rydym yn camu i'r cylchred strategol gan lawn sylweddoli y byddwn, wrth gwrs, yn ystwyth ac yn addasu i newid allanol. Tra bod y cynllun yn eang ei derfynau, byddwn yn glynu wrth amcanion a’r uchelgeisiau sydd wedi’u hamlinellu yn y ddogfen hon. Bydd yr ymrwymiad diysgog hwn yn gymorth i sicrhau ein bod yn symud yn agosach at wireddu ein gweledigaeth tymor hir o gyflwyno newid er gwell i bawb yng Nghymru.

Ein Taith

Mae’r strategaeth hon yn adeiladu ar lwyddiannau’r pum mlynedd diwethaf a’r weledigaeth ddeng mlynedd a gyflwynwyd yng nghynllun strategol Cof Cenedl: Llunio’r Dyfodol 2017-21. Rydym wedi cyflawni sawl gorchest gwerth ei nodi, gan gynnwys:

  • Dros 6.1 miliwn o ymweliadau â’n gwefannau ac adnoddau ar-lein rhwng Ebrill 2017 a Hydref 2020, a chynnydd o 57% rhwng Ebrill 2017 ac Ebrill 2020.
  • Cynnydd sylweddol yn y casgliadau sydd ar gael yn ddigidol, trwy ddigido deunydd ffisegol a thrwy gasglu e-gyhoeddiadau ac archifo gwefannau. Mae cyfanswm o 7 miliwn o wrthrychau sydd wedi’u digido bellach ar gael trwy ein catalog ar ei newydd wedd.
  • Rhaglen wirfoddoli fu’n gyfrwng i gyfoethogi gwybodaeth am gasgliadau ac, yn bwysicach na hynny, i gyflwyno sgiliau a hyder newydd i gyfranogwyr.
  • Gwefan Lleoedd Cymru i arddangos gwaith dros 1,300 o wirfoddolwyr a gyfrannodd i brosiect mapiau degwm Cynefin a llwyfan ar gyfer prosiectau torfoli y dyfodol.
  • Ein cyfraniad i raglen Cymru’n Cofio Llywodraeth Cymru i goffau’r Rhyfel Byd Cyntaf ar ei chanmlwyddiant, a chydweithio gyda phrosiect Cymru dros Heddwch i ddigido a thrawsgrifio Llyfr y Cofio Cenedlaethol Cymru.
  • Rhannu dros 17,000 o eitemau digidol ar Wikicommons, gan arwain at eu cynnwys mewn erthyglau Wicipedia mewn 185 o ieithoedd a’u gweld tua 18 miliwn o weithiau bob mis.
  • Sicrhau cyllid i sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol, y cyntaf o’i math ymhlith gwledydd Prydain.

Byd sy'n newid

Mae’r strategaeth hon wedi'i datblygu mewn amser o newid dirfawr a bydd angen rhoi ystyriaeth i'r ffactorau canlynol os ydym i gyflawni’r weledigaeth a’r amcanion.

  • Effaith uniongyrchol ariannu grant ar ein capasiti a gwasanaethau a phwysigrwydd cynyddol codi arian a chynhyrchu incwm
  • Newidiadau ym maes addysg uwch yng Nghymru a’r cyfleon i gefnogi ysgolheictod digidol
  • Cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion ledled Cymru
  • Ein ymateb i'r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys a’r angen am gynhwysiant ac amrywedd yn ein casgliadau a gweithgareddau
  • Ymadawiad y Deyrnas Gyfunol â’r Undeb Ewropeaidd a phwysigrwydd perthnasau rhyngwladol
  • Newid hinsawdd a’n cyfraniad i gynaladwyedd amgylcheddol
  • Yr her economaidd o ganlyniad i'r pandemig byd-eang a’i ganlyniadau pellgyrhaeddol.
  • Effaith Covid-19 ar iechyd, incwm, sicrwydd swyddi a chysylltiadau cymdeithasol pobl.
  • Technolegau digidol newydd, yr heriau maen nhw’n eu cyflwyno a’r cyfleon maen nhw’n eu cynnig wrth gasglu, diogelu a rhoi mynediad i wybodaeth
  • Symudedd cymdeithasol isel yn ôl safonau rhyngwladol
  • Brasgamau mewn technoleg a’r modd y mae gwaith yn newid
  • I ymateb yn effeithiol i'r heriau hyn, byddwn angen gwytnwch, ystwythder a’r penderfyniad i newid er gwell.

Sut wnaethom ni lunio ein Cynllun Strategol

Yn 2020, aeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru ati i ddatblygu cynllun eglur ac uchelgeisiol. Cafodd y cynllun strategol hwn ei ddatblygu yn dilyn ymgynghoriad helaeth gydag ystod eang o randdeiliaid. Yn dilyn lawnsio ein Gweledigaeth Strategol 2021-26 law yn llaw â’r alwad am sylwadau ac ymatebion, derbyniwyd adborth ysgrifenedig a chynhaliwyd cyfres o weithdai gyda rhanddeiliaid.

Croesawodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yr Adolygiad Teilwredig annibynnol a oedd yn ddadansoddiad manwl a thrylwyr o’r sefyllfa bresennol a’r heriau mae’r sefydliad yn eu wynebu. Cafodd yr adolygiad ei hwyluso gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn amlinellu argymhellion eglur. Mae’r argymhellion hyn wedi llywio datblygiad ein cynllun strategol.

Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i rannu eu sylwadau ar y Weledigaeth a chyfrannu at lunio dyfodol y Llyfrgell yn y modd hwn.

Ein Cenhadaeth

Mae ein cenhadaeth a'n swyddogaeth graidd yr un ag y buont erioed. Yn unol â'n Siarter byddwn yn parhau i:

“gasglu, diogelu a rhoi mynediad at bob math a ffurf ar wybodaeth gofnodedig, yn enwedig mewn perthynas â Chymru a Chenedl y Cymry a phobloedd Celtaidd eraill, er budd y cyhoedd, gan gynnwys y rhai sy’n ymroi i ymchwil a dysg.”

Ein Swyddogaethau Craidd

Casglu

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw unig lyfrgell adnau cyfreithiol Cymru. Mae’r statws hwn yn rhoi hawl i ni dderbyn copi am ddim o bob cyhoeddiad papur a digidol (gan gynnwys gwefannau) o fewn y DU, gan ffurfio craidd i gasgliad ymchwil o safon ryngwladol. Mae ein casgliadau yn cynnwys degau o filiynau o lyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau, ffotograffau, papurau newydd, sain a ffilm, ac yn cynyddu yn barhaus.

Diogelu

Rydym yn arbenigo yng nghadwraeth casgliadau a gwybodaeth ar ffurf ffisegol a digidol. Mae gallu, gwybodaeth ac ymroddiad y gweithlu, ynghyd â'n hisadeiledd a chyfleusterau, yn ein galluogi i sicrhau y bydd y wybodaeth sydd yn ein gofal ar gael i genedlaethau’r dyfodol.

Rhoi mynediad

Rydym yn anelu i roi’r mynediad ehangaf posib i'n casgliadau o fewn i'n adeilad yn Aberystwyth, ar safleoedd mewn rhannau eraill o Gymru, ar ein gwefannau a thrwy lwyfannau a sianeli ar-lein eraill. Rydym bob amser yn chwilio am gyfleon newydd i gyflwyno ein casgliadau i ddefnyddwyr, cyfranogwyr a chynulleidfaoedd trwy weithgareddau fel arddangosfeydd, digwyddiadau, prosiectau gwirfoddoli, a gwasanaeth addysg i ysgolion ledled Cymru.

Tua’r Dyfodol

Mae'r ffordd rydym yn cyflawni ein cenhadaeth wedi ac yn parhau i newid dros amser wrth i ni ymateb i'r byd sy’n newid o’n cwmpas. Mae’r Cynllun Strategol hwn yn cyflwyno'r blaenoriaethau ar gyfer datblygiad a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein cenhadaeth yn effeithiol dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.

Llyfrgell i Gymru a’r Byd

Mae ein cyfrifoldeb flaenaf i bobl Cymru heddiw a chenedlaethau’r dyfodol. Bydd ein gweithredoedd yn adlewyrchu’r aliniad hwn â budd Cymru, ynghyd â’n cyfrifoldeb i gyflawni ein cenhadaeth yn effeithiol a chynaliadwy.

Llesiant

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn llyfrgell i Gymru gyfan ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae gennym gyfraniad pwysig i gyflawni saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Traweffaith Cymdeithasol

Byddwn yn hyrwyddo cymdeithas sy’n gyfartal, yn deg a chynhwysol, gan weithio i ddileu tlodi, a chynnig llwyfan a gofod diogel i drafodaeth iach, gonest ac agored am bob agwedd o fywyd Cymru a’i phobl.

Cynaladwyedd

Rydym yn derbyn ein cyfrifoldeb i ymateb i'r argyfwng hinsawdd byd-eang trwy liniaru effaith amgylcheddol ein gweithrediadau.

Amrywedd

Wrth gasglu, diogelu a rhoi mynediad i wybodaeth, ymrwymwn i weithio tuag at sicrhau amrywedd sy'n adlewyrchu amrywiaeth cefndir a phrofiadau pobl Cymru ac i wneud ein casgliadau a gwasanaethau yn hygyrch i bawb o bob cefndir a gallu.

Yr Iaith Gymraeg

Byddwn yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg gan annog y defnydd ohoni yn ein holl weithgareddau.

Amcanion Strategol a Llesiant

  1. Meithrin a gofalu am gof y genedl
  2. Gosod sylfaen i economi gwybodaeth
  3. Bod yn ganolog i fywyd Cymru
  4. Grymuso ymchwil a dysg

1. Meithrin a gofalu am gof y genedl

1.1 Cofnodi Cymru gyfoes

Blaenoriaethu'r dasg o gofnodi amrywiaeth profiadau'r Gymru gyfoes.

  • Cymru sydd â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn datblygu ac yn buddsoddi yn y gwaith o gasglu a diogelu deunydd digidol o fformatau amrywiol
  • Byddwn yn sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol a fydd yn gofnod cyfoethog a chynhwysfawr o fywyd yn yr 20fed a'r 21ain Ganrif
  • Byddwn yn darparu arweiniad a chyngor ar sut i'w gadw a chodi ymwybyddiaeth o'r risgiau o golli'r cof cenedlaethol yn yr oes ddigidol
  • Byddwn yn datblygu ein perthynas gyda llyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd ac eraill yn y sector treftadaeth yn y gwaith o gasglu cof y genedl

1.2    Ymroi i amrywedd

Sicrhau fod ein casgliadau’n cynrychioli pob agwedd o fywyd a hanes Cymru, yn arbennig unigolion a chymunedau sydd wedi’u tangynrychioli.

  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru sydd â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn meithrin ein cysylltiadau gyda chymunedau ethnig amrywiol ledled Cymru
  • Byddwn gweithio gyda’r cymunedau hyn wrth ddatblygu ein Polisi Casglu
  • Byddwn yn adolygu ein dulliau o ddisgrifio, dehongli a’u hyrwyddo ein casgliadau

1.3 Rhagori mewn diogelu a thrin gwybodaeth

Parhau i gynnal a datblygu ein hisadeiledd ac arbenigedd mewn cadwraeth ac ymdriniaeth o wybodaeth ffisegol a digidol, gan roi arweiniad i'r sector yng Nghymru a chyfrannu i ddatblygiadau ar lefel ryngwladol.

  • Cymru gydnerth
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru lewyrchus

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn buddsoddi yn y gwaith o feithrin a throsglwyddo sgiliau cadwraeth ffisegol a digidol o fewn i'r Llyfrgell ac ar draws y sector
  • Byddwn yn buddsoddi yn natblygiad ein hisadeiledd technegol fel cartref dibynadwy i'n casgliadau digidol
  • Byddwn yn cefnogi sefydliadau eraill yn y gwaith o ddiogelu casgliadau digidol
  • Byddwn yn cydweithio ar lefel rhyngwladol wrth rannu arfer da ym maes trin gwybodaeth, cadwraeth a datblygu casgliadau

2. Gosod sylfaen economi gwybodaeth

2.1 Gwybodaeth sy'n ysgogi ac ysbrydoli

Hwyluso mynediad i gasgliadau yn ddigidol gan roi ystyriaeth o'r cychwyn i'r galw a’r defnydd posibl ohonynt

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn adolygu'r ffordd yr ydym yn disgrifio casgliadau yn barhaus er mwyn darparu mynediad effeithlon a rhoi amlygrwydd i gasgliadau 'cudd'
  • Byddwn yn gwella mynediad i gasgliadau ffisegol trwy barhau â'n rhaglenni digido
  • Byddwn yn chwilio am gyfleon i gynyddu defnydd o'r casgliadau gan fusnesau a'r sector greadigol
  • Byddwn yn gweithio i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn ffurf agored a hygyrch

2.2    Creu cyfleon i gyfranogi

Galluogi cyfranogiad y cyhoedd yn natblygiad y cof cenedlaethol a thrwy hynny gyfrannu at lesiant Cymru â'r byd

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru sydd â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn creu cyfleon i wirfoddoli ar ein safleoedd
  • Byddwn yn cynyddu'r cyfleon i wirfoddoli ac ymgysylltu â'r casgliadau'n ddigidol trwy dulliau megis torfoli
  • Byddwn yn cefnogi rhaglenni a phrosiectau cyfranogol cenedlaethol a rhyngwladol

2.3    Gwella profiad y defnyddiwr

Gwella ansawdd profiad yr ymwelydd ar-lein ac ar ein safleoedd, gan ddatblygu’r
Llyfrgell fel cyrchfan

  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru iachach
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o ehangu mynediad i wybodaeth
  • Byddwn yn sicrhau fod adborth a llais y defnyddiwr yn ganolog i ddatblygiad ein gwasanaethau
  • Byddwn yn buddsoddi yn yr adeilad yn Aberystwyth fel cyrchfan i ymwelwyr o Gymru â'r byd i ymchwilio, darganfod a mwynhau

3. Bod yn ganolog i fywyd Cymru

3.1 Cysylltu cymunedau

Adeiladu a chefnogi rhwydweithiau a chymunedau o gwmpas ein casgliadau a’n
gwasanaethau, a diwylliant a threftadaeth Cymru yn ehangach.

  • Cymru sydd â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru iachach
  • Cymru o gymunedau cydlynus

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn buddsoddi yn adeiladu ein perthynas a’n cysylltiad ag unigolion a chymunedau i gynyddu gwerth a thraweffaith ein casgliadau a gwasanaethau
  • Byddwn yn sefydlu cysylltiadau gyda cymunedau a cynulleidfaoedd newydd
  • Byddwn yn ystyried pob cyfle i ehangu ein cysylltiadau gyda sefydliadau a chyrff cyhoeddus ar draws Cymru a thu hwnt
  • Byddwn yn gwella mynediad a cysylltiadau ar draws Cymru trwy weithgareddau'r Archif Ddarlledu Genedlaethol

3.2 Rhannu casgliadau

Mynd â’n casgliadau a gwasanaethau at gynulleidfaoedd a chymunedau newydd ledled Cymru a rhoi lle, ar-lein ac yn ein safleoedd, i ddehongli a thrafod agweddau ar orffennol, presennol a dyfodol Cymru.

  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn rhannu ein casgliadau yn eang ac agored gyda‘r nod o gael y
  • cyrhaeddiad mwyaf a’r ymgysylltiad dyfnaf
  • Byddwn yn datblygu dulliau a sianeli ar gyfer cyd-weithio â'r cyhoedd i gyd-ddehongli ein hanes a'n diwylliant
  • Byddwn yn cynnal arddangosfeydd a digwyddiadau sy'n ymdrin a themâu amserol a pherthnasol i Gymru heddiw

3.3 Hyrwyddo Cymru fyd-eang

Dathlu a hyrwyddo diwylliant Cymru ymhlith cenhedloedd y byd, rhannu a marchnata Cymru fel cenedl, hyrwyddo allforion diwylliannol, hyrwyddo deilaog rhyngddiwylliannol ac economaidd fanteisiol a chryfhau economi Cymru.

  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang
  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sydd a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn hyrwyddo safleoedd y Llyfrgell fel atyniadau diwylliannol
  • Byddwn yn datblygu a gweithredu Strategaeth Rhyngwladol ac yn cydweithio gyda Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill i hyrwyddo Cymru ar lwyfan byd eang
  • Byddwn yn parhau i feithrin a chryfhau ein perthynas â'r diaspora Cymreig

4. Grymuso ymchwil a dysg

4.1 Galluogi ymchwil ac arloesedd

Cefnogi addysg uwch ac ymchwil academaidd, gan gydweithio mewn meysydd ymchwil sy’n seiliedig ar ein casgliadau neu’n berthnasol i agweddau o Gymru.

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru sydd a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn meithrin perthynas gyda Sefydliadau Addysg Uwch a thimoedd ymchwil sydd â diddordeb yn y casgliadau
  • Byddwn yn archwilio ac arbrofi gyda thechnolegau newydd fel modd o wella mynediad ac ymchwil, gan gefnogi agweddau fel data daearyddol, deallusrwydd artiffisial a mabwysiadu cysyniadau fel 'casgliadau fel data'
  • Byddwn yn cydweithio gyda partneriaid a rhanddeiliaid gyda’r nod o sefydlu cadwrfa ddigidol dibynadwy achrededig fel isadeiledd ar gyfer ymchwil

4.2 Cefnogi addysg ffurfiol

Cefnogi addysg yng Nghymru, yn arbennig y Cwricwlwm i Gymru a chymwysterau ôl-16 mewn ysgolion a cholegau.

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sy’n fwy cyfartal

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Byddwn yn parhau i gyfrannu at ddatblygiad y Cwricwlwm i Gymru
  • Byddwn yn parhau i gynyddu'n darpariaeth o adnoddau dysgu digidol ein hunain ac ar y cyd â phartneriaid
  • Byddwn yn buddsoddi yn ein gwasanaethau i ysgolion ac addysg ôl-16

4.3 Hybu dysgu anffurfiol

Darparu llwybrau i'n casgliadau sy’n galluogi dysgu anffurfiol a chydol oes, arfercreadigol a datblygiad proffesiynol parhaus.

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru sydd a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Sut fyddwn ni'n gwneud hyn?

  • Datblygu rhaglen addysgu anffurfiol i feithrin sgiliau a throsglwyddo gwybodaeth
  • Byddwn yn cynyddu'r cynnwys deongliadol sydd ar gael ar-lein fel adnoddau ar gyfer addysg anffurfiol
  • Byddwn yn chwilio am cyfleon i gydweithio â phartneriaid i gefnogi addysg anffurfiol mewn cymunedau ledled Cymru

Galluogwyr

Beth sydd ei angen arnom i gyflawni ein cynllun strategol

Trawsnewid Digidol

Mae gan dechnoleg ddigidol ran ganolog yng ngwireddu’r Strategaeth hon. Er ein bod ers degawdau wedi arloesi ym maes digido mewn treftadaeth ddiwylliannol, bydd yn gofyn i'r technolegau hyn dreiddio trwy ein holl weithgareddau a gwasanaethau i'n galluogi fel sefydliad i gyflawni ein hamcanion yn fwy effeithiol ac effeithlon. Byddwn yn cofleidio’r cyfle hwn yn y blynyddoedd sydd i ddod, gan gyfuno sgiliau ac arfau digidol gyda dulliau newydd o feddwl a gweithio, a chyfrannu i weithredu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru.

Ynghyd â’r trawsnewidiad digidol hwn, bydd angen y canlynol i'n galluogi i gyflawni ein cynllun.

  • Cydweithio a phartneriaethau
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol
  • Gweithlu medrus a iach
  • Llywodraethiant gadarn
  • Dealltwriaeth o ddefnyddwyr a chynulleidfaoedd
  • Isadeiledd digidol cydnerth a chynaliadwy
  • Cyfleusterau a storfeydd carbon isel ac addas
  • Codi incwm a chynaliadwyedd gyllidol

Ffyrdd o Weithio

Byddwn yn cyflawni pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) i sicrhau ein bod yn dilyn yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy wrth weithio tuag at ein Hamcanion Strategol a Llesiant:

Hirdymor

Pwysigrwydd sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion tymor byr a’r angen am ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion tymor hir hefyd.

Atal

Sut gall gweithredu i atal problemau rhag digwydd neu waethygu helpu'r Llyfrgell i gyflawni ei hamcanion.

Integreiddio

Ystyried sut gall amcanion llesiant y Llyfrgell effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar bob un o’u hamcanion eraill, neu ar amcanion cyrff cyhoeddus eraill.

Cydweithio

Cydweithredu ag unrhyw berson arall all helpu’r Llyfrgell i fodloni ei amcanion llesiant.

Cynnwys

Pwysigrwydd cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, a sicrhau bod y bobl hynny’n adlewyrchu amrywiaeth yr ardal mae'r Llyfrgell yn ei gwasanaethu.