Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r Catalog Archifau a Llawysgrifau ar gael ar hyn o bryd y tu hwnt i adeilad y Llyfrgell. Yr ydym yn gweithio i adfer mynediad. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae’r prosiect yma’n dod a Bleak Fabulous, partneriaeth greadigol rhwng y ffotograffydd Clémentine Schneidermann, a’r ffilmwraig a chyfarwyddwr creadigol Charlotte James, efo pobl ifanc o’r gymuned Teithwyr ym Mhont-y-pŵl.
Dros bedwar diwrnod, archwiliodd y grŵp amrywiaeth o wisgoedd wedi’i hysbrydoli gan y thema ‘dathlu’. Mae canlyniad y prosiect yma’n myfyrio ar fenyweidd-dra, glasoed, a diwylliant Teithwyr. Cafodd hyn ei ysbrydoli gan ddeunydd archifol, gan gynnwys ffilmiau o Archif Ddarlledu Cymru, rhan o Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Ers 2015, mae Clémentine a Charlotte wedi bod yn cydweithio efo grwpiau pobl ifanc ar draws de Cymru, gan ailddiffinio ffotograffiaeth ddogfennol drwy gydweithio’n greadigol. Gan dynnu ar eu profiadau celfyddydol, maent wedi cyflwyno gweithdai dylunio gwisgoedd, ffotograffiaeth, ac addurno setiau, gan gyflwyno profiadau ymarferol i’r diwydiannau creadigol i bobl ifanc.
Diolch arbennig i Opera Genedlaethol Cymru am ddarparu gwisgoedd ar gyfer y prosiect.
Gyda diolch i'r holl gyfranogwyr:
Amelia, Carly, Crystal, Dakota, Demi, Dolly, Fallon, Isabell, Jason Junior, Lavaeh, Leeona, Lilly D, Lilly J, Porcia, Racheal, Shania E, Shania S, Shelly, Sophia, Teago, Tulsia
Ac i’r athrawon:
Lynne Robinson
Lisa Knight
Jodie Waters
Bronwyn Parker