Symud i'r prif gynnwys

Parhaol, agor 18 Tachwedd 2026

Llawr 1, Prif Gyntedd

 

Camwch i fyd Kyffin Williams gan ddarganfod profiad newydd sy’n dathlu bywyd a gwaith yr artist hynod yma.

Yn cyfuno technoleg weledol o'r radd flaenaf gyda straeon rhyngweithiol a gweithiau ac eitemau gwreiddiol o archif Kyffin, mae Profiad Kyffin yn eich gwahodd i edrych ar waith yr artist mewn ffordd newydd.

Teithiwch drwy dafluniadau sy’n dod â'i dirluniau, morluniau ac anifeiliaid eiconig yn fyw, archwiliwch y technegau y tu ôl i’w arddull nodweddiadol, a darganfyddwch fywyd a gweledigaeth un o artistiaid mwyaf nodedig Cymru mewn profiad ar gyfer ymwelwyr o bob oed.

Gwybodaeth

  • Mynediad am ddim (codir ffi archebu fechan).
  • Mae pob sesiwn wedi'i gyfyngu i 10 ymwelydd er mwyn sicrhau'r profiad gorau posib.
  • Bydd pob sesiwn yn para oddeutu 30 munud.
  • Yn addas i blant, ond rhaid i blant o dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn. 
  • Bydd dyddiadau a thocynnau pellach yn cael eu rhyddhau dros amser, ond rydym yn annog ymwelwyr i archebu'n cynnar er mwyn sicrhau'r dyddiad a'r amser sydd fwyaf addas iddynt. 

Hygyrchedd

Nid yw’r profiad yn cynnwys goleuadau sy’n fflachio. Mae’r profiad yn cynnwys sain trochol a thafluniadau digidol.  

Mae'r profiad ar Lawr 1 gyda mynediad lifft. Bydd ymwelwyr yn symud trwy sawl gofod yn ystod y profiad. Mae cyfleoedd i eistedd ym mhob gofod. 

Os oes gennych unrhyw ofynion mynediad neu gwestiynau pellach, cysylltwch â ni cyn archebu a byddwn yn hapus i helpu.”

Ffotograffiaeth

Mae'r Llyfrgell yn caniatáu tynnu lluniau, heb fflach, at ddefnydd personol, anfasnachol, ond peidiwch â defnyddio trybeddau, ffotograffiaeth fflach na ffyn hunlun. Cyfrifoldeb yr ymwelydd yw sicrhau nad yw'n torri unrhyw ddeddfau hawlfraint.

Bwyd a diod

Ni chaniateir bwyd a diod yn ardaloedd arddangos y Llyfrgell.

Mae'r profiad yn bosibl diolch i’r prif gyllid gan Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston. Mae'r profiad hefyd yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.