Symud i'r prif gynnwys

Arlunydd Cyntefig Cymreig

Cyfeirnod: Llyfr lluniadu DV56

Mae mwyafrif lluniau'r gyfrol hon yn olygfeydd o ardal Aberystwyth a'r cyffiniau. Mwy na thebyg person lleol yw'r arlunydd anhysbys, ac mae ganddo (neu ganddi) ddawn sylweddol. Bu'r arlunydd yn gweithio rhwng tua 1830 a 1853.

Mae ei weithiau yn naïf eu testun a'u harddull. Er enghraifft, cawn y teimlad fod gan yr arlunydd fwy o ddiddordeb yn y testun nag yn y broses o arlunio. Yn ogystal, mae'r arlunydd yn gweithio mewn ffordd debyg i grefftwr brodwaith, gan roi pwyslais ar bob manylyn yn y darlun. Felly cawn berspectif gwrth-glasurol gyda ffigurau sy'n aml yn amrywio o ran maint.

Gwir ddiddordeb yr arlunydd oedd rhoi darlun o fywyd cefn gwlad Cymru. Mae ei waith yn dangos digwyddiadau ym mywyd y werin: bedyddio, priodi a chladdu. Hefyd mae'n cynnwys golygfeydd o bobl yn gweithio yn y caeau, ac yn casglu cregyn môr. Mae yna amryw luniau hefyd sy'n dangos pobl leol yn mwynhau'r wlad yn eu horiau hamdden gyda'u teuluoedd.

Yn ogystal â'r lluniau yn y llyfr lluniadu hwn, mae gan y Llyfrgell bortffolio o ddarluniau eraill gan yr Arlunydd Cyntefig Cymreig. Ceir enghreifftiau o'i waith hefyd yn Amgueddfa Caerfyrddin, Abergwili.

Darllen pellach

  • Paul Joyner. Artists in Wales c.1740-c.1851, Aberystwyth : The National Library of Wales, 1997.