Bu ddiddordeb mawr mewn gwrachyddiaeth erioed. Mewn cymdeithasau cyn-lythrennog credid bod dewiniaeth "wen" yn medru cynnig iechyd a bendithion nad oeddent ar gael trwy grefydd neu feddyginiaeth. Ar y llaw arall roedd dewiniaeth "ddu" yn niweidiol ac yn gofyn am weithredu ymwybodol ddrwg megis melltithio cymydog neu wneud niwed i anifail.
Yn ystod y canol oesoedd datblygodd syniadaeth newydd am ddewiniaeth gan ddiwinydion a chyfreithwyr, sef y cysyniad o gytundeb â'r diafol. Dadleuwyd fod gwrachod yn derbyn eu pwerau trwy gysylltiad uniongyrchol â'r diafol. Erbyn diwedd y bymthegfed ganrif, daethpwyd i ofni gwrachyddiaeth a heresi grefyddol fel ei gilydd ac mewn rhai ardaloedd troes hyn yn ymgyrchoedd erlid i geisio dileu pob arlliw o wrachyddiaeth yn llwyr. Ar adegau yn yr ail ganrif ar bymtheg roedd yr arfer o "hela" gwrachod a dewiniaid, yn arbennig menywod, yn gyffredin trwy Ewrop ac arweiniai at gyhuddiadau o wrachyddiaeth, achosion o boenydio ac o ddienyddio. Ceir tystiolaeth yng nghofnodion Llys y Sesiwn Fawr i ddangos fod gwrachod wedi eu herlyn yng Nghymru, fel yn yr achosion hyn o sir y Fflint.
Yn yr achos cyntaf ceir William Griffith, morwr o Bictwn, yn cyhuddo Dorothy Griffith o Lanasa o wrachyddiaeth. Nid oes modd gwybod bellach pam yn union y cafodd y cyhuddiad ei wneud, ond mae'n debyg fod hanes o wrthdaro rhwng y teuluoedd. Ceir yma dystiolaeth William Griffith, ei frawd Edward, Thomas Rodgers, tafarnwr, a'i wraig Margaret Bellis. Ceir hefyd ddeiseb yn cefnogi Dorothy, wedi'i harwyddo gan un ar ddeg ar hugain o'i chymdogion, gan gynnwys aelodau amlwg o'r gymuned leol.
Cododd digwyddiad arall ym mhlwyf Llanasa. Cyhuddwyd Charles Hughes, tenant i John Evans a mab i Hughe ap Edward, o niweidio gwartheg ei landlord yn dilyn anghydfod ynglŷn â thenantiaeth. Yma fe geir tystiolaeth Hughe ap Edward, ac fel yn achos Dorothy Griffith, deiseb yn ei gefnogi, wedi'i harwyddo gan un ar bymtheg o foneddigion lleol. Mae'n debyg nad aethpwyd yn bellach â'r achos yn erbyn Hughes.
Yn Llannerch Banna cyhuddwyd Anne Ellis o wrachyddiaeth. Cardotwraig yn byw ar gyrion cymdeithas oedd Anne Ellis, ac fe'i cyhuddwyd o ddefnyddio dewiniaeth, da a drwg, yn erbyn anifeiliaid a phlant. Ynghyd â'i thystiolaeth ei hun ceir datganiadau gan chwech o'i chymdogion a chwnstabl. Cafodd Ellis ei rhyddhau'n ddiweddarach heb ddyfarniad yn ei herbyn.