Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'r holl ddeunydd sydd ar Gwylio a Gwrando wedi'i ddiogelu gan hawlfraint. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw deiliad yr hawlfraint.
Nid yw'n bosibl gwneud copïau na defnyddio unrhyw ddeunydd ar Gwylio a Gwrando yn gyhoeddus heb ganiatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint. Rhaid clirio unrhyw ddangosiad cyhoeddus neu ddefnydd, gan gynnwys ar-lein, o ddeunydd ar y wefan hon gan y deiliad hawlfraint perthnasol.
Os hoffech ymholi am ddefnydd, cysylltwch â gofyn@llyfrgell.cymru a bydd ein tîm yn gallu rhoi cyngor i chi.
Gallwch hefyd ddysgu mwy am hawlfraint ar dudalen hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a darperir rhywfaint o ganllawiau pellach isod.
Rhaid trafod unrhyw gais i ddefnyddio deunydd darlledu BBC Cymru Wales, ITV Cymru Wales neu S4C gyda'r darlledwr perthnasol.
Bydd gan y rhan fwyaf o ddeunydd ffilm a fideo a gedwir gan yr Archif Sgrin a Sain ddeiliaid hawlfraint unigol. Mewn rhai achosion, yr Archif ei hun sy'n dal yr hawlfraint. Cysylltwch â'n Gwasanaeth Ymholiadau i ddysgu mwy am unrhyw geisiadau defnydd.
Mae’r rhan helaeth o ddeunydd sain sydd ar y wefan yn ddeunydd ddarlledu felly, fel yr uchod, mae angen cysylltu gyda’r darlledwr perthnasol i holi am hawliau. Fel arall, mae gan gasgliadau sain eraill ddeiliaid hawlfraint unigol a bydd ein Gwasanaeth Ymholiadau yn gallu helpu.