Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Joseph Stalin oedd un o ffigyrau enwocaf yr ugeinfed ganrif. Yn dilyn marwolaeth Lenin ym 1924 daeth yn arweinydd yr Undeb Sofietaidd. Defnyddiodd drais yn ddidrugaredd i sicrhau penarglwyddiaeth y blaid Gomiwnyddol a'i safle yntau. Ar gychwyn yr Ail Ryfel Byd, arwyddodd gytundeb â Hitler i rannu Gwlad Pwyl, ond ar ôl i Hitler ymosod ar yr Undeb Sofietaidd ym 1941 ymunodd â'r Cynghreiriaid. Wedi'r rhyfel, sicrhaodd fod dwyrain Ewrop dan ei reolaeth hyd ei farw ym 1953.
Cyhoeddwyd y cartŵn hwn yn ystod awyrgludiad Berlin
Ar ôl marwolaeth Stalin ym 1953 daeth Khrushchev yn Brif Ysgrifennydd Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd. Goroesodd sawl ymdrech i'w ddiswyddo, gan barhau yn arweinydd yr Undeb Sofietaidd trwy argyfwng Ciwba, codi Wal Berlin, ac anfon y dyn cyntaf i'r gofod, nes iddo ymddiswyddo ym 1964. Bu farw yn 1971.
Mae'r cartŵn hwn yn dangos Khrushchev yn cerdded ar ben Wal Berlin yn dal taflegryn niwclear ar ei ben.
Ymunodd Brezhnev â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1929 a brwydrodd yn lluoedd yr Undeb Sofietaidd yn yr Ail Ryfel Byd. Daeth yn aelod o'r Politbiwro ym 1957 ac ar ôl diswyddo Khrushchev, fe ddaeth yn Brif Ysgrifennydd ac arweinydd yr Undeb Sofietaidd. Bu'n gyfrifol am arwyddo cytundebau SALT yn gostwng y nifer o arfau yn America a'r Undeb Sofietaidd. Parhaodd yn Brif Ysgrifennydd hyd ei farw ym 1982.
Mae'r cartŵn yn cyfeirio at y gwrthdystio yn Czechoslovakia ym 1968 a 1969.
Yn fab i ysgolfeistr, ymunodd de Gaulle a'r fyddin, gan ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yr oedd yn swyddog yn y fyddin ac ym 1940 fe'i benodwyd yn Weinidog Rhyfel. Wedi cwymp Ffrainc, arhosodd ym Mhrydain fel arweinydd Byddin Ffrainc Rhydd, ac ef oedd pennaeth llywodraeth Ffrainc rhwng 1945 a 1946. Penodwyd ef yn Brif Weinidog ym 1958, cyn ei ethol yn Arlywydd Ffrainc yn yr un flwyddyn. Bu yn y swydd honno tan 1969.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at de Gaulle yn sefyll yn gadarn yn erbyn y comiwnyddion yn Ffrainc.
Yn aelod o deulu aristocrataidd, gwasanaethodd Churchill yn y fyddin hyd 1899, pan gafodd swydd fel newyddiadurwr. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol ym 1900, ond ym 1908 ymunodd â'r Rhyddfrydwyr. Daliodd nifer o swyddi yn y llywodraeth tan 1922, pan gollodd ei sedd. Ail ymunodd â'r Ceidwadwyr, gan ennill sedd ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ym 1940, penodwyd ef yn Brif Weinidog ar ôl ymddiswyddiad Neville Chamberlain, gan arwain Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Collodd y Ceidwadwyr etholiad 1945 i Lafur, ond dychwelodd Churchill fel Prif Weinidog rhwng 1951 a 1955. Bu farw ym 1965.
Mae'r cartŵn yn cyfeirio at etholiad cyffredinol 1945.
Hyfforddwyd Attlee fel bargyfreithiwr, a datblygodd ddiddordeb mewn problemau cymdeithasol. Yr oedd yn ddarlithydd yn Ysgol Economeg Llundain cyn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Daeth yn aelod seneddol ym 1922, a chafodd swyddi gwahanol yn llywodraethau Llafur 1923-1924 a 1929 cyn dod yn arweinydd y blaid ym 1935. Penodwyd ef yn Ddirprwy Brif Weinidog dan Winston Churchill ym 1942. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, enillodd Llafur yr etholiad cyffredinol ym 1945 a daeth Attlee yn Brif Weinidog. Y llywodraeth honno a osododd sylfaeni'r wladwriaeth les, a sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Collodd Llafur yr etholiad ym 1951, ac ymddeolodd Attlee fel arweinydd y blaid ym 1955. Bu'n weithgar yn Nhŷ'r Arglwyddi tan ei farwolaeth ym 1967.
Mae'r cartŵn yn cyfeirio at etholiad cyffredinol 1945.
Ymunodd Eden â'r fyddin yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Yna troes at yrfa wleidyddol gan ennill sedd yn enw'r Ceidwadwyr ym 1923. Daliodd amryw swyddi llywodraethol o dan arweinyddiaeth Stanley Baldwin, Neville Chamberlain a Winston Churchill. Fe'i penodwyd yn ddirprwy arweinydd y Ceidwadwyr ym 1945, a daeth yn brif weinidog ar ôl ymddeoliad Churchill ym 1955. Bu yn y swydd honno am ychydig llai na dwy flynedd cyn ymddeol ar sail iechyd, oherwydd pwysau Argyfwng Suez.
Mae'r cartŵn yn cyfeirio at gynllun i roi annibynniaeth i Cyprus.
Ar ôl ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, enillodd Macmillan sedd dros y Ceidwadwyr ym 1924. Nid oedd ei egwyddorion cymharol asgell chwith yn boblogaidd yn y Blaid Geidwadol, ond fe'i penodwyd yn weinidog yn y llywodraeth ym 1940. Daeth yn Brif Weinidog ar ôl ymddeoliad Anthony Eden yn 1957 tan ei ymddeoliad yntau ar sail iechyd ym 1963. Daeth yn enwog am araith ar ddyfodol Affrica, ac am ei ymadrodd 'You've never had it so good' i ddisgrifio cyflwr yr economi.
Yn y cartŵn hwn, portreadir Macmillan fel Iarll Kitchener, ym mhoster enwog y Rhyfel Mawr, 'Your country needs you'.
Cafodd Iarll Home sawl swydd yn y llywodraeth dan arweinyddiaeth Winston Churchill, Anthony Eden a Harold Macmillan, cyn ei benodi'n Brif Weinidog ar ôl ymddeoliad Macmillan ym 1963. Bu'n rhaid iddo ymwrthod â'i deitl aristocrataidd cyn iddo gael ei ethol yn aelod o'r Tŷ'r Cyffredin. Collodd y Ceidwadwyr yr etholiad ym 1964, ac ymddiswyddodd fel arweinydd ym 1965.
Mae'r cartŵn yn cyfeirio at yr etholiad cyffredinol ym 1964.
Enillodd Wilson sedd i'r Blaid Llafur yn etholiad 1945, ac o fewn dwy flynedd penodwyd ef yn Lywydd y Bwrdd Masnach. Daeth yn arweinydd y Blaid Lafur ym 1963 ar ôl marwolaeth Gaitskell, ac o dan ei arweiniad enillodd y Blaid Lafur etholiad 1964. Yn ystod ei gyfnod cyntaf fel Prif Weinidog, newidiodd y gyfraith ynglŷn ag ysgaru, erthylu a chyfunrywiaeth a diddymodd y gosb eithaf. Fe gollodd etholiad 1970, ond ar ôl ennill etholiad 1974 daeth yn Brif Weinidog eto tan 1976.
Mae'r cartŵn hwn yn dangos Harold Wilson yn dathlu wedi cyhoeddi pôl piniwn addawol.
Etholwyd Franklin Roosevelt, neu FDR, i Senedd Efrog Newydd ym 1910 ac yn Lywodraethwr talaith Efrog Newydd ym 1928. Cynigiai Roosevelt rywbeth newydd i etholwyr yr Unol Daleithiau yn ystod y dirwasgiad, ac fe'i etholwyd yn arlywydd ym 1932. Daeth yn enwog am ei Fargen Newydd, rhaglen yn cynnig nawdd cymdeithasol i'r bobl a chymorth i ddiwydiant. Ail etholwyd ef dair gwaith. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, cynigodd gymorth i Brydain trwy system les-fenthyciad, cyn i'r Taleithiau ymuno yn y rhyfel ar ôl bomio Pearl Habor ym 1941. Bu farw ychydig wythnosau cyn i'r rhyfel dod i ben yn Ewrop ym 1945.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at brotestiadau yng nghynhadledd y Democratiaid yn galw ar Roosevelt i sefyll am ei drydydd tymor fel arlywydd.
Daeth Truman yn Arlywydd America ar ôl marwolaeth Roosevelt ym 1945. Ef oedd yn gyfrifol am benderfynu gollwng bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki, ac am sefydlu'r Cenhedloedd Unedig. Datblygodd bolisïau tebyg i Roosevelt, y Fargen Deg i reoli'r economi, a Chynllun Marshall i estyn cymorth ariannol i orllewin Ewrop. Cafodd ei ail ethol ym 1948, ac ef oedd yr arlywydd adeg awyrgludiad Berlin.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at Gynllun Marshall i roi cymorth ariannol i wledydd yng Ngorllewin Ewrop.
Etholwyd Eisenhower, neu 'Ike' yn arlywydd yr Unol Daleithiau ym 1953, a hynny ar ôl gwasanaethu fel cadfridog yn y fyddin. Bu'n arweinydd yn ystod rhai o gyfnodau mwyaf anodd y Rhyfel Oer. Yn ystod ei dymor fel arlywydd daeth problemau hiliol America i'r amlwg. Cafodd ei ail-ethol ym 1956, ac ymddeolodd ym 1961.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at y tensiwn rhwng America a'r Undeb Sofietaidd.
Ar ôl gwasanaethu yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd, etholwyd JFK yn aelod o'r Senedd ym 1953. Ymladdodd etholiad anodd yn erbyn Nixon am arlywyddiaeth America ym 1960, ac ennillodd gyda mwyafrif bychan. Nod JFK oedd lledu'r ddelfryd Americanaidd ar draws y byd, a chryfhau hawliau sifil yn America ei hun. Trechodd Khrushchev yn argyfwng Ciwba, a chefnogodd raglen gofod America yn frwd. Fe'i saethwyd yn farw yn Dallas, Texas ym 1963.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at yr ymgais i ddymchwel Castro fel arweinydd Ciwba, pan aeth alltudion o Ciwba yn ôl i ddechrau gwrthryfel gyda bendith JFK.
Fel yr is-arlywydd daeth Lyndon Johnson yn Arlywydd America yn dilyn llofruddiaeth John F Kennedy. Fe'i ail-etholwyd ym 1964, ac aeth ati i ddiwygio iechyd ac addysg, a datblygu ardaloedd tlawd. Penderfynodd ymestyn y rhyfel yn Fiet-nam, ond dechreuodd drafodaethau heddwch cyn ymddeol fel Arlywydd ym 1969.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at y rhyfel yn Fiet-nam.
Hyfforddwyd Adenauer fel cyfreithiwr, a bu'n faer dinas Köln hyd 1933, pan ddiswyddwyd ef gan y Natsïaid. Carcharwyd ef ddwywaith yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond yn dilyn y rhyfel fe'i etholwyd yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen ym 1949. Gweithiodd yn galed er mwyn gwella amodau Gorllewin yr Almaen wedi'r rhyfel, gan ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd a NATO. Cafodd ei ail ethol ym 1953, 1957 a 1961, cyn ymddeol ym 1962.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at y berthynas a Dwyrain yr Almaen
Yr oedd Mao yn un o sylfaenwyr Plaid Gomiwnyddol Tsieina ac wedi gwrthryfel hir daeth yn arweinydd y wlad ym 1949. Er yn gomiwnydd yr oedd ei berthynas â'r Undeb Sofietaidd yn un oriog iawn. Ceisiodd foderneiddio Tsieina trwy gyfres o gynlluniau pum mlynedd uchelgeisiol, ond yn y pen draw methiant fu ei arbrawf economaidd, y Naid fawr ymlaen. Yn ystod y 1960au bu'n gyfrifol am annog chwyldro ddiwylliannol yn y wlad, ac yn y 1970au am wella'r berthynas â'r Unol Daleithiau.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at densiwn o gwmpas y ffin rhwng India a Tsieina.