Symud i'r prif gynnwys

Gallwch chwilio casgliad Illingworth trwy Gatalog y Llyfrgell. Mae mwy nag un ffordd o'i chwilio.

Chwiliad Uwch

Gallwch ddefnyddio'r chwiliad uwch a chynnwys 'Illingworth' fel awdur ac yna eich term chwilio yn y rhes oddi tano.

Prif Chwiliad

Gosodwch eich term chwilio yn y prif flwch chwilio, a dewis Digidol o'r ddewislen. Os oes cartwnau perthnasol yn y casgliad, bydd 'Illingworth, Leslie Gilbert' yn ymddangos yn y rhestr 'Mireinio fy Nghanlyniadau' o dan 'Awdur/Crewr' - cliciwch ar hwn ac mi fydd y canlyniadau perthnasol yn ymddangos.

Pori casgliad Illingworth

Gallwch bori trwy holl gasgliad Illingworth ar ein Catalog.