Symud i'r prif gynnwys

Aneurin Bevan
1897-1960

Ganwyd Aneurin Bevan yn Nhredegar, yn fab i löwr, ac fe aeth i weithio yn y pyllau glo. Yn ystod ei gyfnod dan ddaear datblygodd ei gred mewn sosialaeth, ac enillodd sedd Glyn Ebwy i Lafur ym 1929, yr aelod seneddol ieuengaf erioed ar y pryd.

Yr oedd yn wrthryfelwr wrth reddf yn y senedd, ac ymosodai'n ddidrugaredd ar lywodraethau o bob plaid. Er gwaethaf hyn, penodwyd ef yn Weinidog Iechyd a Chartrefi wedi buddugoliaeth Lafur ym 1945. Daeth yn enwog am ei waith yn sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (yr NHS) ym 1948, ond beirniadwyd ef yn hallt am ei bolisi cartrefi. Mynnodd y dylai cartrefi newydd fod yn fwy o ran maint, ac o safon uwch na'r hen rai, ac oherwydd hyn, ni chodwyd llawer ohonynt yn ystod blynyddoedd cyntaf y cynllun.

Ymddiswyddodd o'r llywodraeth ym mis Ebrill 1951 fel protest yn erbyn cynllun Hugh Gaitskell i godi tâl am rai o wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd, a bu'n gwrthryfela yn erbyn arweinyddiaeth y Blaid Lafur dan Attlee a Gaitskell nes iddo ddod yn ddirprwy arweinydd y blaid ym 1959. Bu farw ym 1960.

Cartŵnau yn cyfeirio at waith Bevan fel Gweinidog Tai, ei dymer enwog, a'i waith ar y mesur i genedlaetholi'r diwydiant dur.

James Griffiths
1890-1975

Ganwyd James Griffiths yn Rhydaman, gan ddechrau gweithio fel glöwr pan oedd yn 13 mlynedd oed. Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1908, ac ar ôl dal swyddi yn Ffederasiwn Glowyr de Cymru, etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llanelli ym 1936. Wedi buddugoliaeth Llafur ym 1945, penodwyd ef yn Weinidog Yswiriant Gwladol, ac ym 1950 daeth yn Ysgrifennydd y Trefedigaethau. Yr oedd yn ddirprwy arweinydd y blaid rhwng 1955 a 1959. Ym 1964 penodwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru, gyda sedd yn y Cabinet. Bu yn y swydd hon tan 1966. Ymddeolodd o'r senedd ym 1970, a bu farw bum mlynedd yn ddiweddarach.

Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at waith James Griffiths fel Gweinidog Yswiriant Gwladol, a chynnydd yn y gost o gynnal y system.

James Callaghan
1912-

Gadawodd Callaghan yr ysgol yn 14 oed, a gweithiodd fel swyddog treth yng Nghaerdydd, ac yna'n swyddog undeb. Ymunodd â'r llynges yn yr Ail Ryfel Byd, ac etholwyd ef yn Aelod Seneddol Llafur dros Dde Caerdydd ym 1945.
Safodd am arweinyddiaeth y blaid ym 1963, wedi marwolaeth Gaitskell, ond collodd i Harold Wilson. Penodwyd ef yn Ganghellor yn llywodraeth Wilson, ond symudwyd ef wedi gostyngiad yng ngwerth y bunt i swydd yr Ysgrifennydd Cartref. Bu'n Ysgrifennydd Tramor rhwng 1974 a 1976 yn ystod ail gyfnod Harold Wilson fel Prif Weinidog. Wedi ymddeoliad Wilson ym 1976, daeth yn arweinydd y blaid ac yn Brif Weinidog. O ganlyniad, ef yw'r unig wleidydd i ddal y pedair brif swydd yn llywodraeth Prydain. Ymddiswyddodd fel arweinydd y Blaid Lafur ym 1980 ar ôl i Lafur golli etholiad 1979, ond arhosodd fel AS nes iddo fynd i Dŷ'r Arglwyddi ym 1987.

Mae'r cartwnau hyn yn cyfeirio at bolisiau trethu a gwariant James Callaghan pan oedd yn Ganghellor y Trysorlys.