Symud i'r prif gynnwys

Bu'r cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd yn gyfnod o newid ar gyfandir Affrica. Wedi caniatáu annibyniaeth i India a Phakistan, hawliodd gwledydd ymerodraethau Prydain a Ffrainc eu hannibyniaeth.

Daeth Ghana yn annibynnol ym 1957 gyda Kwame Nkrumah yn Brif Weinidog. Enillodd llu o wledydd eu hannibyniaeth yn y 15 mlynedd nesaf. Tynnodd y Prif Weinidog Harold Macmillan sylw at yr ysbryd newydd yn Affrica mewn araith fis Chwefror 1960, gan sôn am 'Wind of change'

Ond ni fu'r ddegawd yn gyfnod hawdd ar y cyfandir. Gwelwyd gwrthryfela gwaedlyd yn Algeria cyn annibyniaeth, Katanga yn datgan annibyniaeth o Congo, cyflwynwyd apartheid yn Ne Affrica, ac yn 1965 sefydlwyd llywodraeth gan y lleiafrif gwyn yn Rhodesia.

Apartheid yn Ne Affrica

Cartwnau'n cyfeirio at y system apartheid yn Ne Affrica. Chwith, y prif weinidog Hendrik Verwoerd, ymateb Illingworth i gyflafan Sharpeville fis Mawrth 1960, a'i ymateb i lofruddiaeth Verwoerd ar 6 Medi 1966.

Rhodesia

Cartwnau'n cyfeirio at lywodraeth gan leiafrif gwyn y prif weinidog Ian Smith. Chwith, ymateb Illingworth i sancsiynau yn erbyn Rhodesia, trafodaethau rhwng Brif Weinidog Prydain, Harold Wilson, a Phrif Weinidog Rhodesia, Ian Smith, a datganiad unochrog annibyniaeth Rhodesia.

Mau Mau

Cartwnau yn cyfeirio at wrthryfel y Mau Mau yn Kenya.

Dadwladychu

Y galwadau am hunan lywodraeth, problemau yn wynebu Prydain a Ffrainc wrth iddynt amddiffyn diddordebau'r gwladychwyr, gofidion am aflonyddwch sifil, a rhyddhau Hastings Banda, a ddaeth yn ddiweddarach yn arlywydd Malawi, o'r carchar.

Congo

Cartŵn yn cyfeirio at ymdrechion y Cenhedloedd Unedig i atal rhyfel cartef yn Congo.

Algeria

Cartwnau yn cyfeirio at y rhyfel cartref yn Algeria a arweinodd at annibyniaeth.