Symud i'r prif gynnwys

Bywyd bob dydd ym Mhrydain

Yn gymdeithasol, yr oedd y cyfnod rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a diwedd y 1960au yn un chwyldroadol ym Mhrydain. Yr oedd y pum mlynedd yn dilyn y rhyfel yn rhai llwm. Dognwyd bwyd, tanwydd, dillad a phob math o nwyddau bob dydd oherwydd prinder nwyddau a gweithwyr i'w cynhyrchu, a'r angen am dalu dyledion rhyfel y wlad. Erbyn canol y 1950au yr oedd y sefyllfa wedi gwella. Roedd cyflogau wedi codi, ac am y tro cyntaf yr oedd gan bobl arian i brynu pethau heblaw am yr angenrheidiol: nwyddau moethus, offer ar gyfer y tŷ, a cheir. Adlewyrcha Illingworth y cyfoeth newydd yn rhai o'i gartwnau o'r cyfnod.

Yr oedd nifer o'r newidiadau a welwyd yn deillio yn uniongyrchol o'r rhyfel. Cafodd llawer o fenywod flas ar weithio, ac nid oeddent, o reidrwydd, yn barod i aros gartref wedi i'r dynion ddychwelyd o faes y gad. Erbyn 1961 yr oedd treian gweithlu Prydain yn fenywod, a chawsant fwy o ryddid gyda deddfau newydd ynglŷn ag ysgaru, a dyfodiad y bilsen atal cenhedlu.

Yr oedd y cyfnod yn un o newid o ran ffasiwn. Â'r farchnad dillad wedi'i rheoli gan docynnau dogni er mwyn cadw prisiau nwyddau prin i lawr nid oedd hi'n bosib i'r diwydiant ddatblygu. Ond wedi i'r dogni ddod i ben, gwelwyd amrywiaeth ryfeddol o ddillad lliwgar mewn steiliau gwahanol ar y farchnad.

Yr oedd cymdeithas y 1960au yn wahanol iawn i'r gymdeithas bum mlynedd ar hugain ynghynt.

Bywyd teuluol

Cartwnau yn dangos y drefn domestig, menywod yn gwneud gwaith tŷ, menywod yn delio â pheiriannau newydd, a menywod yn mynd allan i weithio.

Dogni a siopa

Cartwnau yn dangos bywyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, diffyg bwyd a dogni. Menywod yn ciwio tu allan i siop, dathlu wedi diwedd dogni, trafferthion prynu dillad yn oes y llymder, a dicter fod prinder yn parhau.

Prynwriaeth

Cartŵnau yn cyfeirio at gyfoeth cyffredinol yn y 1950au, a'r ffaith bod rhyfelau bellach rhwng cwmnïau yn hytrach na gwledydd er mwyn ennill cwsmeriaid.

Dillad a ffasiwn

Cartwnau yn dangos y newid mewn ffasiwn o "make do and mend" ar ôl yr Ail Ryfel Byd i wisg mwy diddorol, yn ogystal â phrisiau uchel oherwydd diffyg ffabrig.