Symud i'r prif gynnwys

Newidiodd y byd ar 4 Hydref 1957 pan gyhoeddodd yr Undeb Sofietaidd eu bod wedi lawnsio'r lloeren, Sputnik 1 i'r gofod. Yr oedd y ras am y gofod wedi cychwyn. Llai na mis yn ddiweddarach, lansiwyd lloeren arall yn cario ci o'r enw Laika i gylchdroi'r ddaear er mwyn monitro effaith teithio yn y gofod ar anifail. Lawnsiodd America ei lloeren gyntaf hithau ychydig fisoedd wedyn ym mis Chwefror 1958, ac erbyn diwedd 1959 yr oedd y ddau archbŵer wedi anfon lloerennau i'r lleuad.

Fe aeth y dyn cyntaf i'r gofod ym mis Ebrill 1961. Treuliodd Yuri Gagarin o'r Undeb Sofietaidd 108 munud yn cylchdroi'r ddaear cyn dychwelyd, ond yr oedd rhaid aros tan mis Tachwedd 1969 cyn i Americanwr, Neil Armstrong, gerdded ar wyneb y lleuad.

Yr oedd ennill y ras i'r gofod yn holl bwysig i'r Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau o ran gwybodaeth wyddonol ac hefyd o ran statws a'u hymdeimlad o fawredd. Sylwodd Illingworth ar bwysigrwydd yr agwedd hon yn ei gartwnau, gan bortreadu Khrushchev ac Eisenhower fel cymdogion a weithiau fel gelynion yn ôl yr hinsawdd ryngwladol ar y pryd.

Cartwnau yn cyfeirio at lawnsio Sputnik 1 yn dangos Khrushchev yn dathlu, yr Undeb Sofietaidd yn lawnsio lloeren yn cario ci o'r enw Laika, lluniau cyntaf ochr dywyll y lleuad, a'r Undeb Sofietaidd yn lawnsio lloeren.

Cartwnau yn cyfeirio at lawnsio roced Americanaidd, arallfydwyr yn croesawu'r Americaniaid, Lunik II yn cylchdroi'r lleuad a Roman III yn glanio ar y lleuad