Symud i'r prif gynnwys

Roedd Thomas Taylor (fl.1670-1730) yn werthwr llyfrau, printiau a mapiau yn Llundain, rhwng 1670 a 1721. Bu'n gweithio o nifer o gyfeiriadau gwahanol a nodir fel hyn: 'next door to the Beehive on London Bridge', 'at the Hand and Bible in the New Buildings on London Bridge' ac 'at Ye Golden Lyon, over against Serjeants Inn in Fleet Street'. Roedd hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o fapiau gan gynnwys England exactly described [...] yn 1715 a oedd yn cynnwys mapiau o Siroedd Lloegr a gyhoeddwyd eisoes yn Maps Epitomiz'd gan Speed yn 1681 ac mewn gweithiau eraill. Fodd bynnag, mae Taylor yn arwyddocaol mewn cyd-destun Cymreig am gyhoeddi'r atlas sirol bychan The Principality of Wales exactly described [...] yn 1718, Tybir mai dyma'r atlas cyhoeddedig cyntaf sy’n perthyn yn gyfan gwbl i Gymru.

 

Amgylchynir tudalen deitl y gyfrol gan batrwm o ddail o fewn amlinell ddwbwl. Yn wahanol i gynnwys England exactly described, mae’n ymddangos bod y deg map yn ei atlas Cymreig yn newydd. Nid ydynt wedi eu rhifo, ac mae’n wedi cael eu disgrifio a’u trefnu fel isod yn yr atlas:

Pembrokeshire with its hundreds 1718
A new mapp of Carmarthenshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Glamorganshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Brecknockshire with its hundreds by Tho: Taylor. Radnorshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Cardiganshire described with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Montgomeryshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Merionethshire described with all its hundreds by Tho: Taylor 1718
Denbighshire by Tho: Taylor. Flintshire by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Caernarvonshire by Tho: Taylor 1718
A new mapp of the Isle of Anglesey with its hundreds by Tho: Taylor 1718

Mae'r teitlau a dyddiadau, ac eithrio'r rhai o Sir Benfro a sir Feirionnydd, yn ymddangos o fewn sgroliau addurnol (cartouche), yr unig addurn ar y mapiau. Mae cartouche addurniadol Sir Benfro yn dwyn cyflwyniad gan Taylor i Syr John Philipps o Gastell Pictwn, ger Hwlffordd, yr unig un o'r mapiau sy'n cynnwys cyflwyniad o'r fath.

Lluniwyd pob un o'r mapiau fwy neu lai ar yr un raddfa o tua 1 fodfedd i 7 milltir, neu 1:443520. Ceir ar bob map far graddfa 10 milltir, yr argraffnod "Sold by Tho: Taylor at the Golden Lyon in Fleet Street", a'r dyddiad 1718. Maint pob map, oddi mewn i'w forder plaen llinell-ddwbl, yw 18 x 25 cm, ac y mae wedi'i argraffu ar draws dwy ddalen heb ddim y tu cefn iddynt. Yn gyffredinol, mae mapiau Taylor yn dangos siroedd unigol, ynghyd â rhai manylion anghyflawn o’r siroedd cyfagos, gyda rhai siroedd, e.e. Brycheiniog a Maesyfed, yn ymddangos ar yr un ddalen. Nid oes map o Sir Fynwy yn yr atlas gan fod y sir honno'n cael ei thrin yn aml fel rhan o Loegr yn y cyfnod hwn.

Cynrychiolir y mynyddoedd a'r bryniau gan 'dwmpathau gwadd' darluniadol, ac ysgythrwyd yr afonydd mwyaf, a’u henwi weithiau. Dangosir lleoliad y trefi a'r prif bentrefi, a'u henwau, a dangosir y cantrefi hefyd ar y rhan fwyaf o'r mapiau, ynghyd â rhestr o'u henwau. Nid yw’r cantrefi’n ymddangos ar fapiau sir Gaernarfon, Dinbych a'r Fflint. Nodir cestyll, priffyrdd, pellteroedd yn ôl arolwg Ogilby, a rhosyn cwmpawd ar bob un o'r mapiau.