Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae’r Llyfrgell hefyd yn dal nifer fawr o fapiau’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, yn arbennig ar gyfer y cartograffwyr Cymreig oedd yn ffynnu yn y cyfnod hwn, ond hefyd ar gyfer cartograffwyr eraill a oedd yn cynhyrchu mapiau o Gymru.
Un o’r pwysicaf yw atlas Thomas Taylor The Principality of Wales exactly described, a gyhoeddwyd yn 1718. Dyma’r atlas cyntaf o Gymru ar ei phen ei hun.
Mae enghreifftiau diddorol eraill yn cynnwys:
Mae’r mapiau hyn yn dangos y symudiad oddi wrth mapio siroedd unigol a thuag at fapio mwy rhanbarthol. Yn y 18fed ganrif roedd nifer o’r atlasau yn cynnwys mapiau o ogledd a de Cymru, tra bod pob sir yn Lloegr yn cael eu mapio, ac weithiau byddai gan Sir Fynwy fap iddi ei hun.
Yn ddiweddarach yn y 18fed ganrif dangoswyd mwy o ddiddordeb mewn mapio siroedd manwl a chafwyd sawl ymgais i ddwyn perswâd ar syrfëwyr lleol i gynhyrchu mapiau ar raddfa 1 fodfedd i bob milltir neu raddfa gyffelyb ar gyfer pob sir. Llwyddiant cyfyngedig yn unig a gafodd y syniad hwn. Dim ond gyda dyfodiad yr Arolwg Ordnans, a ariannwyd gan y cyhoedd, y dechreuwyd cael arolwg manwl, cynhwysfawr o’r wlad.