Symud i'r prif gynnwys


Ystyrir ‘Y Ffydd Ddi-Fyiant: sef, Hanes y ffydd Gristianogol, a'i rhinwedd. Y trydydd preintiad gyd ag angwanegiad', gan Charles Edwards, yn glasur llenyddol Cymraeg. Cyflwynwyd braslun hanesyddol o’r Ffydd Gristnogol mewn cyd-destun rhyngwladol a Chymreig yn y ddau argraffiad blaenorol (cyhoeddwyd yn 1667 ac 1671). Ychwanegwyd astudiaeth gynhwysfawr i’r trydydd argraffiad (cyhoeddwyd yn 1677), ac ynddi mae Edwards yn trafod rôl Ffydd yng nghyd-destun bywyd unigolyn.