Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid oedd ‘Y Bibl Cyssegr-lan, sef yr Hen Destament a'r Newydd', a gyhoeddwyd ym 1630, yn unigryw o ran ei gynnwys, ac mewn gwirionedd argraffwyd fersiwn unfath degawd ynghynt. Fodd bynnag, roedd gan y gyfrol un nodwedd unigryw; ei maint. Mae fersiwn 1630 yn cael ei adnabod fel y Beibl teuluol, neu’r Beibl dyddiol gyntaf i ymddangosodd yn y Gymraeg. Yn wreiddiol, cydnabuwyd Esgob Richard Parry, Llanelwy, fel ei brif gyfrannydd, hynny yw, yr un ag addasodd cyfieithiadau gwreiddiol William Morgan ar gyfer y cyhoeddiad. Nid oedd ef ei hun chwaith yn barod i gymeradwyo cyfraniadau unigolion eraill. Serch hynny, ceir tystiolaeth sy’n awgrymu mai ei frawd yng nghyfraith ac un o ysgolheigion gorau ei oes, y Dr John Davies, oedd wedi diwygio a safoni rhan helaeth o gyfieithiad 1588 ar gyfer cyhoeddiad 1630.