Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Thomas Charles oedd prif arweinydd ail genhedlaeth y Methodistiaid yng Nghymru a daeth yn un o aelodau pwysicaf yr enwad. Roedd Charles yn angerddol am bwysigrwydd y catecism ac ymgyrch yn pwysleisio ei arwyddocâd oedd y cyhoeddiad – ‘Crynodeb o egwyddorion crefydd’; cyfieithwyd i’r Saesneg yn ddiweddarach hefyd fel ‘A Short Evangelical Catechism’. Cyhoeddiad i blant ydoedd.