Symud i'r prif gynnwys


‘Y Beibl cyssegr-lan sef Yr Hen Destament, a’r Newydd’ gan William Morgan oedd y cyfieithiad cyflawn cyntaf o’r Beibl i ymddangos yn y Gymraeg. Cymerodd rai blynyddoedd i’r gwaith ymddangos ar ffurf argraffedig: o Ddeddf Seneddol 1563 tan ei gyhoeddiad ym 1588. Graddiodd William Morgan o Gaergrawnt a daeth yn esgob ar Landaf a Llanelwy yn ddiweddarach. Cyfieithodd wrth ddefnyddio’r Beiblau gwreiddiol Hebraeg a Groeg; manteisiodd hefyd ar fersiynau esgobion Lloegr a chyfeiriodd atynt yn achlysurol. Ceir cyfieithiadau gwreiddiol yn ‘Y Beibl cyssegr-lan’ ynghyd ag addasiadau o Destament Newydd Salesbury. Dyma’r llyfr mwyaf dylanwadol, yn nhermau ieithyddol a llenyddol, a welodd Cymru erioed. Plethwyd iaith glasurol y beirdd yn fedrus i’r gwaith, ac yn fyr, y mae llenyddiaeth Gymraeg yr oes fodern wedi’i selio ar y sylfaen gadarn hon. Caniataodd poblogaeth, a oedd yn uniaith Gymraeg ar y cyfan, i ddarllen a chlywed y Beibl cyflawn yn eu hiaith eu hunain.