Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Cyhoeddwyd cyfieithiad William Salesbury o'r Testament Newydd ar y 7fed o Hydref, 1567. Defnyddiodd Salesbury eirfa ysgolheigaidd yn hytrach nag iaith bob dydd yn ei gyfieithiad a newidiodd sillafiad rhai geiriau Cymraeg fel eu bod yn ymddangos yn debyg i’r iaith Lladin. Mae cyfieithiad Salesbury yn garreg filltir bwysig yn hanes cyhoeddi yng Nghymru ac fe alluogodd pobl y wlad i ddarllen yr Ysgrythurau yn eu hiaith eu hunain am y tro cyntaf. Bu’r gwaith hefyd yn sail i gyfieithiad diweddarach William Morgan o'r Beibl cyflawn (1588), ac mae’r cyhoeddiad hwnnw’n cael ei ddefnyddio hyd heddiw, heb fawr o newid.