Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Nid yw'r gwasanaeth Corneli Clip ar gael ar hyn o bryd oherwydd problemau technegol. Rydym yn gweithio i ddatrys y rhain mor fuan â phosib. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Ym 1563 pasiwyd deddf gan y Llywodraeth yn gorchymyn esgobion Cymru ac esgob Henffordd i drefnu cyfieithiad o’r Beibl a’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’r Gymraeg, a hynny erbyn y 1af o Fawrth 1567. Cyhoeddwyd cyfieithiad William Salesbury o’r Llyfr Gweddi ar y 6ed o Fai 1567. Roedd ei gyhoeddiadau yn achlysuron pwysig yn hanes cyhoeddi yng Nghymru wrth iddynt ddarparu deunydd crefyddol i’r Cymry yn eu hiaith eu hunain am y tro cyntaf.