Symud i'r prif gynnwys

Mae ewyllysiau'n ffynhonnell gyfoethog iawn o wybodaeth sy'n cael eu hesgeuluso'n aml. O'r holl ffynonellau sydd ar gael i haneswyr teulu, dyma un o'r ychydig rai sy'n dangos y cysylltiad rhwng unigolyn a'i deulu, a'i ffrindiau. Er na ddylid cymryd yn ganiataol fod pawb wedi gwneud ewyllys, mae'n werth cael golwg.

Hyd 1858, profwyd ewyllysiau gan lysoedd Eglwys Lloegr ond wedi hyn cyflwynwyd system symlach o brofeb sifil. Mae ewyllysiau a brofwyd yng Nghymru rhwng 1858 a 1941 ar gael yn y Llyfrgell. Os oedd unigolyn yn dal tir mewn mwy nag un esgobaeth yng Nghymru, profwyd y rhain yn Llys Uchelfraint Caergaint.

Pa wybodaeth a geir mewn ewyllys

  • Enw a chyfeiriad llawn yr unigolyn
  • Statws cymdeithasol a chyfoeth yr unigolyn
  • Tir ac eiddo'r unigolyn
  • Enw gŵr, gwraig, plant, wyrion ac aelodau eraill o'r teulu
  • Lleoliad claddu yr ymadawedig
  • Gwybodaeth am alwedigaeth
  • Enwau'r gweinyddwr/ysgutor

Mynediad

  • Cyn 1858 Ewyllysiau LlGC Arlein 
  • Ar ôl 1858 Calendar of Grants of Probate ar gael yn yr Ystafelloedd Darllen