Symud i'r prif gynnwys

Gyda chofysgrifau ystad yn bennaf y ceir y cofnodion maenorol sydd ar gadw yn y Llyfrgell ac er iddynt gael eu rhestri gyda'r cofysgrifau ystad ceir mynegeion ar wahan iddynt drwy Cofrestr Dogfennau Maenorol dan ofal yr Archifdy Gwladol, Kew.

Rhai sir Drefaldwyn yw'r mwyaf cynhwysfawr (gyda chofysgrifau ystadau Castell Powis a Wynnstay yn bennaf). Ceir hefyd ddaliadau sylweddol o gofnodion maenorol ar gyfer siroedd Morgannwg a Mynwy (yn bennaf gyda chofysgrifau ystadau Badminton, Bute a Thredegar). Rhaid cofio na wreiddiodd y gyfundrefn faenorol erioed o ddifri mewn llawer rhan o Gymru.

Mynediad