Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Trwy orchymyn Thomas Cromwell yn 1538, gorfodwyd pob plwyf i gadw cofnod o bob bedydd, priodas a chladdedigaeth a weinyddid. Mae'r manylion o fewn y cofrestri'n amrywio o blwyf i blwyf ac o glerc i glerc ond prin iawn yw'r cofrestri sydd wedi goroesi o'r cyfnod cynnar. Bellach mae'r cofrestri gwreiddiol yng ngofal yr Archifdai Sirol. Am ddyddiadau cofrestri plwyf sydd wedi goroesi gweler Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales, gol. C J Williams a J Watts-Williams (Aberystwyth: LLGC, 2000).
O 1598 hyd tua 1860 danfonwyd adysgrifau o gofnodion y cofrestri plwyf at yr esgob ar ddiwedd pob blwyddyn. Prin yw'r adysgrifau cynnar o blwyfi Cymru cyn 1660. Am ddyddiadau adysgrifau'r esgob sydd wedi goroesi, gweler Cofrestri Plwyf Cymru/Parish Registers of Wales, fel nodwyd yn flaenorol.
Roedd ymrwymiad priodas yn galluogi rhoi trwydded i briodi heb orfod cyhoeddi gostegion yn yr eglwys ar dri Sul yn olynol cyn y briodas. Mae'r ymrwymiadau yn rhoi manylion diddorol am y ddau oedd yn priodi gan gynnwys enwau, dyddiadau, lleoliad, oed a gwaith y priodfab. Dim ond yr ymrwymiadau ac affidafidion hyd at 1837 sydd wedi mynegeio, ond mae cofnodion yn ymestyn i mewn i'r 20fed ganrif.