Symud i'r prif gynnwys

Os nad ydych yn gallu darganfod eich cyndeidiau mewn cofrestri plwyf, mae'n werth cael golwg yng nghofnodion y capel anghydffurfiol.

Yn dilyn Deddf Hardwicke yn 1753, roedd yn rhaid i bawb rhwng 1754 a 1837, (heblaw am y Crynwyr a'r Iddewon) briodi yn eglwys y plwyf - hyd yn oed os mai anghydffurfwyr oeddynt. Er hynny, nid oedd unrhyw orfodaeth ar fedyddio, felly nid yw'r mwyafrif o fedyddiadau'r anghydffurfwyr yn ymddangos yn y cofrestri plwyf.

Ymhlith cofnodion yr anghydffurfwyr ceir:

  • Cofrestri bedyddio, priodi a chladdu
  • Rhestrau aelodaeth
  • Cyfrolau cyfraniadau capeli unigol
  • Adroddiadau blynyddol printiedig o tua 1880
  • Cyfnodolion enwadol

Yn anffodus, nid yw cofnodion y capeli wedi eu cadw mor ofalus a chydwybodol a rhai'r eglwys; felly mae'n anarferol i ddarganfod unrhyw gofrestr cyn y 19eg ganrif. Am fanylion cofrestri sydd wedi goroesi gweler Cofrestri Anghydffurfiol Cymru/Nonconformist Registers of Wales Gol. Dafydd Ifans (LLGC, Aberystwyth, 1994).

Mynediad

  • Cronfa ddata CAPELI ar gael yn Ystafell Ddarllen y De yn unig
  • Drwy chwilio'r Prif Gatalog
  • Cofrestri cyn 1837 yn meddiant yr Archifdy Gwladol, Kew ar gael ar microffilm ar silffoedd agored Ystafell Ddarllen y De.