Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Y Llyfrgell yw prif ganolfan hel achau Cymru ac mae'n gartref i nifer helaeth o gofnodion defnyddiol i'r hanesydd teulu - cyfrifiad, cofnodion profeb, cofnodion anghydffurfiol a mapiau degwm, i enwi ond rhai ohonynt. Byddant i gyd o gymorth yn ystod eich ymchwil.
Holi perthnasau a ffrindiau teuluol am wybodaeth.
Chwilio am dystiolaeth o fewn y teulu all gadarnhau'r wybodaeth - tystysgrifau, ffotograffau, dyddiaduron, llythyron, toriadau papur newydd ayb.
Creu a threfnu'r wybodaeth ar ffurf coeden deulu mewn ffordd glir a chryno, naill ai ar bapur neu gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol.
Trefnu ymweliad â'r Llyfrgell, cadarnhau amserau agor, argaeledd ffynonellau, gwybodaeth tocyn darllen ayb ar y wefan
Gallwch archebu lle ar un o'n Sesiynau Gwybodaeth. Gall staff yr ystafelloedd darllen ddarparu sesiynau un wrth un ar bynciau amrywiol a all gael eu teilwra i gwrdd â'ch anghenion
Os am gymorth pellach cysylltwch â'n Gwasanaeth Ymholiadau