Hanes Casgliad Llawysgrifau Peniarth
Diogelwyd y llawysgrifau yn Hengwrt am genedlaethau, ac ychwanegwyd atynt rai cyfrolau eraill tros y blynyddoedd. Pan fu farw Syr Robert Williames Vaughan o Hengwrt ym 1859, ag yntau heb etifedd, gadawodd y casgliad i’w gyfaill W W E Wynne, a symudodd y llawysgrifau i lyfrgell Peniarth, Meirionnydd.
Prynwyd y cyfan gan Syr John Williams (1840-1926) ym 1904. Pan fu farw W R M Wynne, mab hynaf W W E Wynne ym 1909, trosglwyddwyd y llawysgrifau o Beniarth i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd yn Aberystwyth.