Ymysg uchafbwyntiau’r casgliad mae:
- copi o ddiwedd y 14eg ganrif o Itinerarium Cambriae a Descriptio Cambriae Gerallt Gymro (llsgr. NLW 3024C)
- Llawysgrif Feddygol Mostyn (neu ‘Mostyn 88’), a ysgrifennwyd gan Gutun Owain tua 1487-9 (llsgr. NLW 3026C)
- ail ran Cronicl Elis Gruffudd, ‘y milwr o Galais’, sy’n adrodd hanes y cyfnod 1066-1552 (llsgr. NLW 3054D)
- Llyfr Achau Wiliam Cynwal, a ysgrifennwyd gan y bardd a’r achyddwr rhwng 1565 a 1585 (llsgr. NLW 21249B)
- casgliad enfawr John Jones, Gellilyfdy o englynion, casgliad a luniwyd ar wahanol adegau rhwng 1605 a 1618 (llsgr. NLW 3039B).