Symud i'r prif gynnwys

Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Mae’n helpu sicrhau y caiff deunydd cyhoeddedig y genedl (ac felly ei chofnod deallusol a threftadaeth gyhoeddedig y dyfodol) ei gasglu’n systemataidd, er mwyn cadw’r deunydd at ddefnydd cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i ddarllenwyr yn y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol penodedig .

Mae’r Llyfrgell Brydeinig a’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol eraill wedi ymrwymo i sicrhau y caiff deunydd a gyhoeddwyd yn y Deyrnas Unedig ac a gesglir neu a adneuir dan ddeddfwriaeth adnau cyfreithiol ei gadw a’i roi ar gael i ymchwilwyr ei ddefnyddio yn adeiladau’r Llyfrgelloedd. Fodd bynnag, mae’r Llyfrgelloedd wedi ymrwymo hefyd i sicrhau y caiff deunydd ei archifo a’i arddangos yn gyfreithlon, ac yn unol â pholisïau y cytunwyd arnynt gyda chynrychiolwyr y rhanddeiliaid.

Mae’r Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol yn gweithredu polisi Hysbysu a Thynnu i Lawr ar gyfer amgylchiadau penodol pryd y dylid gwrthod mynediad i’r cyhoedd neu ddileu deunydd a adneuwyd. Dyma rai rhesymau dilys, ond nid yr unig rai, dros dynnu deunydd i lawr neu ei ddileu:

  • Cytundebau ar gyfer gwahardd mynediad
  • Gwaharddebau llys
  • Gofynion cyfreithiol
  • Prawf o dor hawlfraint neu hawl cronfa ddata, nad yw’n dod dan ddeddfwriaeth adnau cyfreithiol neu gyfyngiad neu eithriad yng nghyfraith hawlfraint y Deyrnas Unedig
  • Deunydd y canfuwyd ei fod yn enllibus neu’n ddifenwol
  • Tor cyfrinachedd

Os ydych chi wedi canfod deunydd adnau cyfreithiol na ddylai yn eich tyb chi fod ar gael i ddefnyddwyr, hysbyswch ni drwy anfon cwyn ysgrifenedig, wedi’i marcio ‘BRYS’. Gallwch naill ai anfon eich cwyn yn electronig i takedown@llgc.org.uk neu drwy lythyr at Y Gwasanaeth Ymholiadau, Gwasanaethau i Ddarllenwyr, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU, a dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Eich manylion cysylltu.
  • Digon o wybodaeth, gan gynnwys yr union gyfeirnod catalog ac URL llawn, inni allu adnabod yr eitem(au) dan sylw.
  • Natur eich cwyn, a’ch rheswm dros ein hysbysu.
  • Os oes a wnelo’ch cwyn â hawliau eiddo deallusol, cadarnhad mai chi biau’r hawliau, neu mai chi yw cynrychiolydd awdurdodedig perchennog yr hawliau.
  • Os oes a wnelo’ch cwyn ag enllib, difenwad, cyfrinachedd neu ddata personol, cadarnhad naill ai mai chi yw cyhoeddwr neu destun y deunydd dan sylw, neu ei gynrychiolydd awdurdodedig.

Wedi derbyn cwyn:

  • Fe gydnabyddwn dderbyn eich cwyn drwy ebost neu lythyr.
  • Gwnawn asesiad cychwynnol o’r gŵyn yn ôl ei rhinweddau ac, yn ystod ein hymholiadau, gallwn dynnu’r deunydd dan sylw i lawr neu rwystro mynediad ato.