Symud i'r prif gynnwys

Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Mae’n helpu sicrhau y caiff deunydd cyhoeddedig y genedl (ac felly ei chofnod deallusol a threftadaeth gyhoeddedig y dyfodol) ei gasglu’n systemataidd, er mwyn cadw’r deunydd at ddefnydd cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i ddarllenwyr yn y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol penodedig.

Corff yw’r Cyd-bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol (JCLD) sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r llyfrgelloedd adnau a chymdeithasau’r diwydiant cyhoeddi. Ei brif amcan yw hwyluso cydweithrediad rhwng cyhoeddwyr a llyfrgelloedd adnau er mwyn gweithredu trefniadau adnau statudol a gwirfoddol yn effeithiol. Mae ei waith yn cynnwys trafod polisïau casglu deunydd di-brint, dod i gytundeb ar gwestiynau dehongliad, asesu datblygiadau newydd ar y cyd, a sefydlu cynlluniau peilot technegol neu gynlluniau gwirfoddol lle bo’n briodol.

Cylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor

Daw’r Cyd-bwyllgor â chynrychiolwyr y cyhoeddwyr a’r llyfrgelloedd adnau ynghyd i hwyluso gweithrediad effeithiol adnau cyfreithiol. Dyma’i swyddogaethau:

  • trafod, cytuno a dilyn canllawiau dehongli, polisïau a phrosesau i sicrhau y caiff Rheoliadau a wneir dan Ddeddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 eu gweithredu’n effeithiol, adneuo’n llwyddiannus a chost-effeithiol bob deunydd sy’n agored i adnau cyfreithiol, a darparu mynediad yn ddiogel ac effeithiol at ddeunydd a adneuwyd;
  • gwerthuso effeithiolrwydd trefniadau adnau cyfreithiol deunydd di-brint, asesu’r modd y gweithredir y Rheoliadau’n ymarferol ac anghenion y dyfodol, a chasglu tystiolaeth i baratoi ar gyfer adolygiad y Llywodraeth o’r Rheoliadau, gan ystyried sylwadau grwpiau gorchwyl a gorffen arbenigol;
  • sefydlu trefn apêl annibynnol os bydd anghydfod ynghylch adnau cyfreithiol, a chytuno ar aelodaeth y panel apêl, gan gynnwys Cadeirydd annibynnol;
  • derbyn adroddiad a pholisi casglu adneuon cyfreithiol blynyddol y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol;
  • derbyn adroddiadau cyfrinachol oddi wrth archwiliadau diogelwch seilwaith adnau cyfreithiol y llyfrgelloedd.