Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae adnau cyfreithiol yn bodoli yng nghyfraith Lloegr er 1662. Mae’n helpu sicrhau y caiff deunydd cyhoeddedig y genedl (ac felly ei chofnod deallusol a threftadaeth gyhoeddedig y dyfodol) ei gasglu’n systemataidd, er mwyn cadw’r deunydd at ddefnydd cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau ei fod ar gael i ddarllenwyr yn y llyfrgelloedd adnau cyfreithiol penodedig.
Wrth roi cyngor ar ddatblygu polisïau a thechnegau priodol, ceisia’r Cyd-bwyllgor ar Adnau Cyfreithiol (JCLD) sicrhau y gweithredir trefniadau adnau cyfreithiol mewn modd cydweithredol a fydd yn osgoi rhoi sail i anghytundeb rhwng cyhoeddwr a llyfrgell adnau. Serch hynny, gall anghytundeb o’r fath godi ambell waith ac felly mae’r Cyd-bwyllgor yn cefnogi proses dri cham ar gyfer datrys anghydfod. Amcan y broses yw annog datrys drwy gydsyniad y ddwy ochr lle bynnag y bo modd, ond mae’n cynnwys opsiwn i gyfeirio mater at banel cyflafareddu annibynnol os oes angen.
Gellir defnyddio’r broses ddatrys hon ar gyfer unrhyw anghydfod adnau cyfreithiol neu gŵyn sydd heb ei datrys, a chan unrhyw berson perthnasol gan gynnwys llyfrgelloedd adnau, cyhoeddwyr prif ffrwd, cyhoeddwyr annibynnol ac awduron unigol blogiau neu dudalennau gwe.
Cam 1: Negodi. Trafodaeth uniongyrchol rhwng y ddau barti i’r anghydfod – y cyhoeddwr perthnasol a’r llyfrgell sy’n gwneud y cais – i ymchwilio i’r mater a datrys eu gwahaniaethau. Gall hyn gynnwys cyfeirio’r mater i Grŵp Gweithredu’r chwe llyfrgell adnau, i arbenigwyr technegol y Cyd-bwyllgor, neu i aelodau eraill y Cyd-bwyllgor fel y bo’n briodol, am eu barn a’u hawgrymiadau hwy ynghylch cyfaddawd a fyddai’n dderbyniol gan bawb.
Cam 2: Cyfryngu. Os na ellir datrys y mater drwy negodi, cyfeirir y mater i is-grŵp o’r Cyd-bwyllgor i gyfryngu mewn ymgais i ddatrys yr anghydfod. Dogfennir casgliadau ac argymhellion, gyda’r rhesymeg y tu ôl iddynt, gan gynnwys unrhyw gyfaddawdau a awgrymir. Fodd bynnag, gall yr is-grŵp ddod i’r casgliad fod cyfryngu’n annhebygol o lwyddo, a chyfeirio’r mater ymlaen i gyflafareddiad.
Cam 3:Cyflafareddu. Os na ellir datrys y mater drwy gyfryngu, gellir cyfeirio’r mater yn ffurfiol i banel cyflafareddu, yn cynnwys dau gynrychiolydd cyhoeddwyr, dau gynrychiolydd llyfrgell a chadeirydd annibynnol a benodir gan y Cyd-bwyllgor. Caiff y naill ochr a’r llall wneud cyflwyniad ysgrifenedig i’r panel a dylent gytuno i gael eu rhwymo gan benderfyniad y panel.