Symud i'r prif gynnwys

Ers dros 50 mlynedd mae’r Llyfrgell wedi mynd ati i gasglu papurau llenorion Cymreig (a elwid weithiau yn ‘Eingl-Gymreig’), sef llenorion Cymraeg sy’n ysgrifennu trwy gyfrwng yr iaith Saesneg. Y ffigwr amlycaf wrth gwrs yw Dylan Thomas ac mae gennym gasgliad cynyddol o lythyrau a llawysgrifau ganddo. 

Mae gennym gasgliad o bapurau llenyddol Raymond Williams yn cynnwys drafftiau o'r nofelau Border Country a People of the Black Mountains.

Ceir archif gynhwysfawr o bapurau’r awdur a’r artist David Jones yn cynnwys drafftiau o In Parenthesis a The Anathemata

Hefyd mae gennym lyfrau nodiadau a phapurau Margiad Evans, drafftiau o nofelau a storïau Rhys Davies ac archif gyflawn o nofelau, storïau a llyfrau nodiadau yn llaw Gwyn Thomas.

Beth am weld dyddiaduron llenorion megis John Cowper Powys, Idris Davies neu Edward Thomas? Beth am weld llythyrau amrywiol at Keidrych Rhys, golygydd Wales, a llythyrau at Sam Adams yn trafod Poetry Wales?

Rhestr ddethol A-Z

Dyma rai o'r awduron amlycaf yn ein casgliadau, ond nid yw popeth yn y rhestr hon a dylid chwilio’r catalogau am fanylion pellach. Gellir cael mynediad i’r archifau hynny sydd wedi eu catalogio drwy chwilio Catalog y Llyfrgell).