Symud i'r prif gynnwys

Rhybuddion Cynnwys Gwylio a Gwrando

Mae'r deunydd sydd ar gael ar wefan Gwylio a Gwrando yn gofnod o hanes ac mae'n cynnwys rhywfaint o ddeunydd a allai achosi gofid neu dramgwydd.

Mae hyn yn cynnwys gohebiaeth newyddion ar drychinebau, achosion troseddol a digwyddiadau hanesyddol arwyddocaol eraill, yn ogystal ag enghreifftiau o agweddau ac iaith ar ôl yr oes am grwpiau o bobl neu unigolion sydd wedi'u hymylu.

Gyda chymaint o ddeunydd ar y wefan, nid yw'n bosibl i ni adolygu pob eitem am gynnwys sensitif neu a all beri gofid. Dyna pam y byddwch yn gweld y nodyn cyffredinol, “gall yr eitem hon gynnwys deunydd hanesyddol a all beri gofid neu achosi tramgwydd, gan gynnwys iaith ac agweddau gwahaniaethol," a ddefnyddir ar draws deunydd ar y wefan, ac fel naidlen pan fyddwch yn ymweld â'r wefan am y tro cyntaf.

Efallai y bydd rhai eitemau hefyd yn arddangos rhybuddion cynnwys mwy penodol, gan rybuddio'r defnyddiwr am ddeunydd sensitif penodol ar ôl i'n staff ei adolygu. Gellir dod o hyd i ganllaw i ystyr y rhybuddion isod.

Os dewch o hyd i eitem yr ydych yn credu y dylai rhybudd cynnwys gael ei ychwanegu ati, cysylltwch â ni trwy ein gwasanaeth Ymholiadau. Os ydych chi'n pryderu eich bod chi wedi dod o hyd i wybodaeth sy'n torri hawlfraint, yn groes i gyfreithiau preifatrwydd, neu sy'n anweddus neu'n enllibus, gweler rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Polisi a Gweithdrefn Tynnu i Lawr.

 

Canllaw i Rybuddion Cynnwys Gwylio a Gwrando

Mae’r rhaglen yn cynnwys themâu aeddfed

Ystyrir yn gyffredinol bod y rhaglen hon yn addas i oedolion yn unig; gall gyfeirio at berthnasoedd, rhyw a'r diwydiant rhyw, neu gynnwys trafodaethau ar bynciau heriol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys deunydd sensitif

Gall y rhaglen hon gynnwys themâu sensitif y gallai gwyliwr eu cael yn anodd neu'n heriol, e.e. cyfeiriadau at drasiedïau a phrofiadau bywyd trawmatig, achosion troseddol proffil uchel, ffigurau cyhoeddus dadleuol, ac yn y blaen.

Mae’r rhaglen yn cynnwys themâu meddygol

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys delweddau o weithdrefnau meddygol a/neu drafodaethau am afiechyd neu gyflyrau meddygol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys iaith gref

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys rhegi.  

Mae’r rhaglen yn cynnwys golygfeydd sy’n peri gofid

Gall y rhaglen hon cynnwys deunydd sy’n peri drallod neu gofid i wylwyr, e.e. golygfeydd o brofedigaeth, golygfeydd o drychinebau, golygfeydd o anifeiliaid mewn trallod, ac ati. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys noethni

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys noethni mewn cyd-destun nad yw'n rhywiol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwawdlun homoffobig, iaith homoffobig, a/neu agweddau homoffobig

Gall y rhaglen hon gynnwys gwawdluniau homoffobig, e.e. cymeriadau ‘camp’ comig, iaith homoffobig, e.e. galw enwau sarhaus, a/neu agweddau homoffobig. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwawdlun hiliol, iaith hiliol, a/neu agweddau hiliol

Gall y rhaglen hon gynnwys gwawdluniau hiliol, e.e. mathau o gymeriadau hen ffasiwn, iaith hiliol, e.e. sarhad sarhaus, a/neu agweddau hiliol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys gwawdlun ablaidd, iaith ablaidd a/neu agweddau ablaid

Gall y rhaglen hon gynnwys gwawdluniau ablaidd, e.e. cymeriadau comedi sy'n gwatgwarllyd, iaith ablaidd, e.e. geiriau sarhaus, a/neu agweddau sy'n ablaidd. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys noethni wedi’i rywioli

Mae’r rhaglen yn cynnwys delweddau o noethni yng nghyd-destun adloniant i oedolion. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys delweddau o ddefnyddio cyffuriau

Gall gynnwys delweddau o gyffuriau'n cael eu defnyddio e.e. yn cael eu paratoi neu eu chwistrellu

Mae’r rhaglen yn cynnwys hiwmor aeddfed

Yn cynnwys hiwmor sydd wedi'i fwriadu ac yn addas ar gyfer oedolion yn unig. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys delweddau o ryfel a gwrthdaro

Gall y rhaglen hon gynnwys delweddau o ryfel a gwrthdaro, e.e. brwydrau ar raddfa fawr, bomio, canlyniadau ymosodiadau, ac ati. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfeiriadau i hunan-laddiad

Gall y rhaglen hon gynnwys cyfeiriadau at, trafodaethau am neu ddarluniau o hunanladdiad a'i effaith.

Mae’r rhaglen yn cynnwys deunydd graffig

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys deunydd graffig, naill ai mewn cyd-destun ffuglennol neu ddogfennol, er enghraifft: delweddau gwaedlyd, e.e. triniaeth llawfeddygol; manylion anafiadau; delweddau dogfennol o gyrff meirw; manylion graffig triniaeth milfeddygol.

Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfeiriad at a/neu bortread o trais rhywiol

Gall y rhaglen hon gynnwys cyfeiriadau at, trafodaethau am neu ddarluniau o drais rhywiol a'i effaith.