Symud i'r prif gynnwys

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Polisi a Gweithdrefn Cymryd i Lawr

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn ceisio rhoi'r mynediad ehangaf i'n casgliadau a gwasanaethau. Wrth wneud hynny, rydym yn cymryd camau rhesymol i sicrhau’r mynediad ehangaf i'n casgliadau a gwasanaethau. Wrth wneud hynny, rydyn ni’n cymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw’r wybodaeth (all fod mewn unrhyw ffurf, yn cynnwys testun, delweddau, ffeiliau sain a fideos) rydyn ni’n ei chyhoeddi arlein yn achosi niwed neu dramgwydd, ac rydyn ni’n ymdrechu i weithredu bob amser yn ddidwyll ac yn unol â deddfwriaeth.

Os oes gennych chi bryderon eich bod wedi dod o hyd i wybodaeth sy’n torri hawlfraint, sy’n groes i gyfreithiau preifatrwydd, neu sy’n anweddus neu ddifenwol, cysylltwch â ni yn ysgrifenedig. Gallwch naill ai anfon eich cwyn yn electronig i takedown@llgc.org.uk neu drwy lythyr, wedi'i marcio ‘BRYS’, at Y Gwasanaeth Ymholiadau, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3BU. Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol: 

  • Eich manylion cyswllt.
  • Disgrifiad o’r deunydd, gan gynnwys yr union gyfeirnod catalog a'r dudalen we ac URL llawn, inni allu adnabod yr eitem(au) o dan sylw.
  • Natur eich cwyn, a’ch rheswm dros ein hysbysu.
  • Os oes a wnelo’ch cwyn â hawliau eiddo deallusol, cadarnhad mai chi biau’r hawliau, neu mai chi yw cynrychiolydd awdurdodedig perchennog yr hawliau.
  • Os oes a wnelo’ch cwyn ag enllib, difenwad, cyfrinachedd neu ddata personol, cadarnhad naill ai mai chi yw cyhoeddwr neu destun y deunydd dan sylw, neu ei gynrychiolydd awdurdodedig.

Gweithdrefn Hysbysu a Chymryd i Lawr

  1. Byddwn yn cydnabod ein bod wedi derbyn eich cwyn o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn gweithredu yn unol â’n Polisi Cwynion[dolen].
  2. Bydd mynediad i'r wybodaeth ar ein gwefannau yn cael ei hatal tra bydd y cwyn yn cael ei ymchwilio.
  3. Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â thrydydd partïon i'w hysbysu bod y wybodaeth yn destun cwyn a beth yw’r honiad.
  4. Byddwn yn cyfathrebu gyda’r partïon dan sylw gyda’r nod o ddatrys y mater mor gyflym a chyfeillgar ac i foddlonrwydd yr holl bartïon. Gallai’r drafodaeth hon arwain at un o’r canlyniadau sy’n dilyn:
    a. Bod y wybodaeth yn cael ei hadfer ar wefan(nau) LlGC.
    b. Bod y wybodaeth yn cael ei hailosod ar wefan(nau) LlGC gyda newidiadau.
    c. Bod y wybodaeth yn cael eu tynnu oddi ar wefan(nau) LlGC yn barhaol.
    ch. Os nad yw’r partïon dan sylw yn medru cytuno ar ddatrysiad, bydd LlGC yn ystyried a ddylid adfer y wybodaeth i'w gwefan(nau) neu’n parhau i atal mynediad iddi hyd nes y ceir penderfyniad.

Adolygwyd: Mehefin 2022