Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (10 Mehefin 2026) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Gwefan yw Gwylio a Gwrando sy'n rhoi mynediad i gasgliadau digidol ffilm, fideo a sain o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Ddarlledu Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y gwahanol mathau o ddeunydd ar y wefan ar y dudalen ‘Beth sydd ar gael’.
Bydd Gwylio a Gwrando yn cael ei ddiweddaru â deunydd newydd yn rheolaidd, wrth iddo ddod ar gael.
Cliciwch ar gryno-lun yr eitem hoffech gael mynediad ato. Bydd hyn yn mynd â chi at y cofnod llawn. Bydd pwyso'r eicon chwarae yn caniatáu ichi wylio neu wrando ar y clip.
Bydd modd i chi weld a gwrando ar gasgliad clyweledol digidol cyfan Llyfrgell Genedlaethol Cymru o fewn y Corneli Clip a leolir ledled Cymru.
Os ydych yn ymweld â Gwylio a Gwrando y tu allan i'r Corneli Clip, byddwch yn gallu gweld neu wrando ar ddetholiad amrywiol o dros 13,000 ar-lein, ble bynnag eich lleoliad. Am ddeunydd arall yn y casgliad, byddwch yn gallu pori'r cofnodion met data ond ni fyddwch yn medru eu gwylio na'u gwrando. Os oes gennych gyfrif LlGC, gallwch ychwanegu eitemau i restr chwarae, yn barod i wylio/gwrando arnynt pan fyddwch yn ymweld â Chornel Clip, os nad ydynt ar gael o'ch lleoliad.
Ni fydd angen i chi gofrestru i chwilio neu weld y cofnodion am eitemau ar wefan Gwylio a Gwrando, nac i wylio/gwrando ar y detholiad o 13,000 o glipiau a rhaglenni sydd ar gael o unrhyw le.
Fodd bynnag, i fedru gwylio/gwrando i'r HOLL glipiau a rhaglenni, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif LlGC a defnyddio eich Rhif Tocyn Darllenydd i fewngofnodi, a bydd angen i chi fod o fewn Cornel Clip.
Bydd hefyd angen cyfrif arnoch i greu rhestrau chwarae eich hun.
Bydd cofrestru nid yn unig yn caniatáu i chi chwarae'r holl eitemau o fewn Cornel Clip, ac i greu eich rhestrau chwarae eich hun, ond bydd hefyd yn rhoi mynediad i chi at ystod ardderchog o adnoddau arlein Llyfrgell Genedlathol Cymru, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ceir rhagor o wybodaeth ynglyn â chamau cofrestru ar y dudalen ‘Tocynnau Darllen’.
I chwilio am eitem o fewn y casgliad, rhowch allweddair sy'n gysylltiedig â'r eitem yr ydych am ddod o hyd iddo yn y Blwch Chwilio ar y dudalen flaen. Ar ôl i chi wasgu ‘Chwilio’, byddwch yn cael eich tywys i'r dudalen ‘Canlyniadau Chwilio’.
Gallwch fireinio eich chwiliad drwy fewnosod allweddair neu ymadrodd arall i'r blwch ‘Chwilio o fewn y canlyniadau hyn’.
Gallwch fireinio eich canlyniadau chwilio ymhellach drwy ddefnyddio'r opsiynau hidlo ar ochr chwith y sgrin ar y dudalen ‘Canlyniadau Chwilio’, neu drwy ‘Chwilio o fewn y canlyniadau hyn’. Ar ffôn symudol, cliciwch ar y botwm ‘Cyfyngu’ ar yr ochr chwith er mwyn gweld yr opsiynau hidlo. Mae'r opsiynau hidlo yn cynnwys ‘Argaeledd’, ‘Blwyddyn’, ‘Degawd’, ‘Fformat’, ‘Iaith', ’Genre', ‘Math o Gynnwys’, ‘Enw Sianel’, ‘Lliw’, ‘Sain’, ‘Cwmni Cynhyrchu’. Ar ôl eu dewis, bydd y canlyniadau'n cael eu mireinio.
Cliciwch ar ‘Hafan’ ar frig y dudalen. Bydd hyn yn eich dychwelyd i'r dudalen flaen ble gallwch ddechrau chwiliad newydd.
Fel arall, gallwch olygu eich term(au) chwilio ar frig y dudalen Canlyniadau Chwilio.
Gallwch newid nifer y canlyniadau a ddangosir trwy glicio ar y gwymplen ‘Trefnu’ yn y cornel dde uchaf. Yma gallwch ddewis gweld naill ai 12, 24 neu 36 canlyniad ar dudalen.
I newid y drefn dangosir y canlyniadau, cliciwch ar ‘Trefnu’. Gallwch ddidoli eich canlyniadau yn ôl Perthnasedd neu yn ôl Teitl, mewn trefn esgynnol neu ddisgynnol.
Ar y dudalen ‘Canlyniadau Chwilio’, bydd pob eitem yn arddangos Teitl, Dyddiad, Hyd a Chrynodeb, os ar gael. Bydd rhai eitemau yn cynnwys rhybudd cynnwys.
Bydd clicio ar ganlyniad yn mynd â chi i gofnod llawn yr eitem ac yn rhoi mynediad i chi at ystod ehangach o wybodaeth, yn dibynnu ar ba ddata sydd ar gael. Fe allai hyn gynnwys Teitl, Dyddiad, Iaith, Hyd, Hawliau, Crynodeb, Rhestr saethiadau, Genre, Enw sianel, Math o gynnwys, Lleoliad, Cyfranwyr a Pherfformwyr, ynghŷd â gwybodaeth dechnegol.
O ystyried swmp y deunydd ar y wefan, nid yw'n bosibl i ni adolygu pob eitem am gynnwys sensitif neu a allai beri gofid. Dyma pam ar gyfer rhai eitemau fe fyddwch wedi gweld neges rhybudd cyffredinol y wefan hefyd, “Gall yr eitem hon gynnwys deunydd hanesyddol a all beri gofid neu achosi tramgwydd, gan gynnwys iaith ac agweddau gwahaniaethol".
Gall rhai eitemau gynnwys rhybuddion cynnwys mwy penodol yn ogystal er mwyn rhoi gwybodaeth fwy manwl am y cynnwys yn dilyn adolygiad gan aelod o staff.
Ceir rhestr lawn o rybuddion cynnwys a'u hystyron ar y dudalen Rhybuddion Cynnwys.
Mae'r data a ddarperir ar gyfer pob eitem ar y wefan yn dod o wahanol ffynonellau a dros sawl degawd. O ganlyniad, mae'r data sydd ar gael yn gallu amrywio o eitem i eitem, yn dibynnu ar ffactorau megis os yw'r data wedi'i grynhoi gan y darlledwyr neu gan ein catalogwyr.
Mae rhai o'r eitemau wedi dod atom o ffynonellau amrywiol gyda dyddiadau talfan neu stoc wedi'u darparu, felly bydd rhai eitemau yn cynnwys dyddiadau anghywir neu, o dro i dro, dim dyddiad o ganlyniad.
Oherwydd cyfyngiadau hawliau, mae ond yn bosibl gwylio neu wrando ar bopeth ar y wefan o fewn Cornel Clip. Fodd bynnag, gallwch weld yr holl gofnodion metadata ble bynnag eich lleoliad. Ceir gwybodaeth bellach ar sut i weld y casgliad yn eich ardal leol ar y dudalen ‘Beth sydd ar gael’.
Gallwch, ar y dudalen gartref, o dan y bar chwilio, fe welwch rhestrau chwarae wedi'u llunio gan guraduron yr archif. Mae'r casgliadau yma yn gyfuniad o eitemau ar gael y tu mewn a thu allan Corneli Clip.
I weld deunydd ar gael mewn Cornel Clip yn unig ar sgrin lawn, dewiswch yr eicon sgrin lawn – arddangosir fel 'saethau' wedi'u gosod mewn siâp sgwâr – yng nghornel gwaelod de'r chwaraewr fideo. I adael y sgrin lawn, dewiswch yr un eicon neu pwyswch y botwm Esc. ar eich bysellfwrdd.
I weld deunydd ar gael arlein ar sgrin lawn, ewch i'r gornel gwaelod de i'r eicon sgrin lawn, sy'n ymddangos fel dwy saeth letraws.
Ar ffôn symudol, pwyswch chwarae, trowch eich ffôn i olwg tirlun, a dewiswch yr eicon saethau yng nghornel de gwaelod y fideo.
I addasu'r opsiynau chwarae nôl i ddeunydd sydd ond ar gael mewn Corneli Clip, cliciwch yr eicon chwarae yn yr olygfa lawn, wedyn ewch i'r eicon sain ar y gwaelod chwith i newid y lefelau sain, neu'r eicon ‘1x’ ar waelod de'r fideo i addasu'r cyflymder chwarae nôl.
I addasu chwarae nôl/ansawdd y deunydd YouTube, pwyswch ar yr eicon chwarae, yna cliciwch ar yr eicon olwyn gocos yng nghornel de top yr eitem i agor y gosodiadau. Bydd hyn yn rhoi amryw o opsiynau chwarae nôl/ansawdd i chi.
Na. Oherwydd cyfyngiadau hawlfraint, ni allwch lawrlwytho cynnwys o'r wefan. Os oes ymholiad gennych, cysylltwch â'r Llyfrgell am ragor o wybodaeth.
Rhestr chwarae yw rhestr o ffeiliau sain a/neu fideo a ddewisir gan y defnyddiwr lle gellir eu trefnu'n ôl themâu gwahanol a chael mynediad atynt nes ymlaen drwy'r ardal ‘Fy Nghyfrif’. Gellir mewngofnodi i'ch cyfrif o unrhyw le i greu a chael mynediad i'r rhestrau chwarae, ond cofiwch gellir ond gweld rhai eitemau trwy fewngofnodi mewn Cornel Clip.
I greu rhestr chwarae, cliciwch ar y botwm Mewngofnodi/Cofrestru, a nodwch eich manylion cyfrif LlGC.
Ewch i ‘Fy Nghyfrif’ ac yna ‘Fy Rhestrau Chwarae’. Dewiswch y botwm ‘Ychwanegu Rhestr Chwarae Newydd’ ar yr ochr dde a bydd naidlen yn agor lle gallwch nodi teitl.
Gallwch hefyd greu rhestr chwarae newydd o olygfa llawn bob eitem. Cliciwch ar gryno-lun eitem i agor yr olygfa lawn. Nesaf i'r fideo ar yr ochr dde, dewiswch yr eicon nod tudalen ('bookmark') (sy'n cynnwys arwydd ‘+’). Bydd hyn yn agor naidlen newydd lle gallwch chi ychwanegu eitem at restr chwarae sy'n bodoli eisoes, neu greu un newydd gan ddilyn y cyfarwyddiadau. Rhowch enw i'r rhestr chwarae, a gwasgwch ‘Cadw’.
Os hoffech ychwanegu eitem i restr chwarae, cliciwch ar yr eicon nod tudalen ('bookmark'). Bydd naidlen ‘Ychwanegu at restr chwarae’ yn agor. Os na fydd gennych unrhyw restrau chwarae wedi'u creu, bydd angen i chi greu un newydd. Gallwch ddewis un neu fwy o restrau chwarae i ychwanegu'r eitem atynt, a phwyso'r botwm ‘Cadw’.
Fel arall, chwiliwch yr eitem hoffech ei ychwanegu a chliciwch arno i gyrraedd yr olygfa lawn. Cliciwch ar yr eicon nod tudalen ar ochr dde'r Teitl. Bydd naidlen ‘Ychwanegu at restr chwarae’ yn agor.
Eisiau gwybod os yw eitem yn barod wedi'i ychwanegu at restr chwarae? Os yw'r eicon nod tudalen wedi'i liwio'n ddu, mae'r eitem yn barod wedi'i ychwanegu at restr chwarae.
I weld eich holl restrau chwarae, ewch i'r ardal ‘Fy Nghyfrif’ a dewiswch ‘Fy Rhestrau Chwarae’.
Nawr eich bod wedi creu eich rhestr chwarae, efallai y byddwch am ei olygu o bryd i'w gilydd. Yn gyntaf, llywiwch i'r ardal ‘Fy Rhestrau Chwarae’ yn ‘Fy Nghyfrif’. Gyferbyn â phob rhestr chwarae, fe welwch 3 dot. Bydd clicio ar y 3 dot yma yn agor naidlen sy'n galluogi i chi olygu neu ddileu'r rhestr chwarae. Os ydych yn dewis golygu'r rhestr chwarae, byddwch yn medru golygu enw'r rhestr chwarae ac unrhyw nodiadau cysylltiedig.
Os ydych am ddileu eitem o restr chwarae, ewch i ‘Fy Rhestrau Chwarae’ a dewiswch y rhestr chwarae berthnasol. Bydd hyn yn agor rhestr o eitemau o fewn y rhestr chwarae. Pwyswch ar y 3 dot gyferbyn â phob eitem a chliciwch ar ‘Dileu o’r rhestr chwarae'.
Mae ail-ddefnydd yr holl eitemau yn ein archif yn amodol ar glirio hawliau a/neu prosesau trwyddedu, a allai fod yn wahanol yn dibynnu ar bob deilydd hawlfraint.
Ceir rhagor o wybodaeth am hawlfraint ar ein tudalen ‘Hawlfraint, Trwyddedu a Defnydd’.
Na, ni allwn gyflenwi fframiau o ffilmiau. Os oes gennych ymholiad, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Ymholiadau.