Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Mae'n bosib na fydd mynediad at ein gwefannau am gyfnodau heno (10 Mehefin 2026) oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol. Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra.
Gwefan yw Gwylio a Gwrando sy'n rhoi mynediad at gasgliadau o ffilm, fideo a sain wedi'u digido o Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archif Ddarlledu Cymru.
Mae Gwylio a Gwrando yn dwyn ynghyd ddeunydd clyweledol amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r deunydd yn cynnwys:
Wrth i fwy o ddeunydd cael ei ddigido, bydd y casgliadau sydd ar gael drwy wefan Gwylio a Gwrando’n cynyddu.
Datblygwyd Gwylio a Gwrando'n wreiddiol fel rhan o brosiect Archif Ddarlledu Cymru er mwyn darparu adnodd di-dâl arlein sy'n darparu mynediad at gasgliadau clyweledol unigryw ac hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Mae nifer fawr o ffilmiau, rhaglenni, a chlipiau ar gael drwy wefan Gwylio a Gwrando o unrhyw le lle mae gan rywun cysylltiad i’r we a chyfrif LlGC cofrestredig.
Oherwydd cyfyngiadau hawliau, dim ond mewn Corneli Clip mae modd cael mynediad at bob dim sydd ar Gwylio a Gwrando.
Lleoliadau ledled Cymru yw'r Corneli Clip sy'n rhoi mynediad llawn, lleol i ymwelwyr i holl ddeunydd Gwylio a Gwrando Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd angen i ymwelwyr gofrestru am gyfrif LlGC am ddim er mwyn chwarae'r holl ffilmiau a rhaglenni.