Rhowch eich barn
Llenwch ein holiadur byr fel y gallwn ddefnyddio'ch sylwadau i wella ein gwasanaethau.
Gweithredir y cynllun cyhoeddi hwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), sy'n un o brif sefydliadau gwybodaeth a diwylliannol Cymru. Pwrpas y cynllun yw casglu, diogelu a sicrhau mynediad i wybodaeth gofnodedig, ym mhob ffurf ddogfennol, gyda phwyslais arbennig ar hanes academaidd Cymru, er budd pawb sy'n ymgymryd ag ymchwil a dysg, neu sydd ag anghenion eraill ym maes gwybodaeth. Y Llyfrgell hefyd yw storfa wybodaeth fwyaf Cymru ar bynciau o bob math. Fel llyfrgell adnau cyfreithiol, mae'n derbyn copïau o'r rhan fwyaf o lyfrau a deunydd printiedig arall a gyhoeddir yn y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon, ac mae iddi bum swyddogaeth craidd - casglu, cadwedigaeth, rhoi mynediad a gwybodaeth, rhoi cyhoeddusrwydd, a dehongli, a sicrhau cydweithrediad proffesiynol.
Lluniwyd y cynllun cyhoeddi o dan adran 19 Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Mae'r Ddeddf hon yn rhoi hawl gyffredinol i unigolion i gael mynediad i bob math o wybodaeth gofnodedig sy'n cael ei dal gan awdurdodau cyhoeddus, yn amodol ar rai eithriadau.
O dan y Ddeddf, mae gan gyrff cyhoeddus ddau brif gyfrifoldeb:
Yn dilyn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth mae gan unigolion yr hawl i gael mynediad i bob math o wybodaeth, cyn belled nad oes unrhyw eithriad mewn grym. Derbyniwyd ceisiadau am wybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ers y 1af o Ionawr 2005.
Yn ogystal, mae LlGC yn ymrwymedig i'r egwyddorion o fynediad i wybodaeth sy'n cael eu mynegi yn y fersiwn diwygiedig o Côd Ymarfer ar Ganiatáu i'r Cyhoedd Weld Gwybodaeth a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2007.
Y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, Pedr ap Llwyd, sy'n gyfrifol am y cynllun ar ran y Llyfrgell. Y Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus sy'n gyfrifol am gynnal y cynllun o ddydd i ddydd.
Mae gwybodaeth ynglŷn â chynlluniau cyhoeddi yn gynwysedig yn Adran 19 o'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac mewn canllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn 2008. Eu pwrpas yw datblygu diwylliant agored ar raddfa helaethach trwy annog mudiadau i gyhoeddi mwy o wybodaeth am eu gwaith a'u cyfraniad i fywyd cyhoeddus mewn modd tra gweithredol. Mae'r cynllun cyhoeddi hwn yn arweiniad cyflawn i wybodaeth a gyhoeddir yn rheolaidd gan LlGC. Nid oes unrhyw reidrwydd ar y Llyfrgell i ymateb i geisiadau unigol am wybodaeth sydd eisoes ar gael trwy ei chynllun cyhoeddi.
Mae'n angenrheidiol bod y cynllun cyhoeddi yn cynnwys yr wybodaeth ganlynol:
Rhaid i'r cynllun cyhoeddi hwn gael ei gymeradwyo gan y Comisiynydd Gwybodaeth, a'i adolygu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru bob mis Ionawr.
Trefnwyd y cynllun cyhoeddi hwn yn unol â'r strwythur a awgrymir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Mae'r cynllun yn cynnwys saith dosbarth o wybodaeth:
Y mae LlGC wedi ymrwymo i gyhoeddi neu wneud ar gael mewn modd arall fel rhan o'i waith arferol wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth amgylcheddol, a gedwir ac sydd yn perthyn i'r dosbarthiadau isod. Yn ychwanegol, bydd LlGC yn enwi'r wybodaeth a gedwir ac sydd yn perthyn i'r dosbarthiadau hyn. Bydd unrhyw wybodaeth a gynhwysir o dan yr eithriadau a restrir yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei hepgor.
Mae'r cynllun cyhoeddi ei hun ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd, ac ar gael i ddefnyddwyr arlein trwy gyfrwng gwefan LlGC. Gellir cael copïau printiedig o'r cynllun yn y Dderbynfa sydd ar agor fel arfer rhwng 0930-1700 (Dydd Llun - Dydd Sadwrn). Mae'r Llyfrgell ar gau bob dydd Sul fel arfer ac mae'r Ystafell Ddarllen ar agor, gyda gwasanaeth cyfyngedig, ar Wyliau Cyhoeddus.
Os nad oes gennych fynediad i'r Rhyngrwyd, gellir cael copïau o'r cynllun yn rhad ac am ddim oddi wrth y Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru, SY23 3BU, ffôn: +44 (0)1970 632 830, ebost: foi@llgc.org.uk.
Mae'r wybodaeth ar gael mewn sawl fformat. Mae mwyafrif y dogfennau ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac fe'u cyhoeddir yn electronig mewn PDF (Portable Document Format) a / neu HTML (HyperText Mark-up Language) ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru www.llyfrgell.cymru. Mewn rhai achosion, bydd yr URL (Uniform Resource Locator) a nodir o fewn y cynllun cyhoeddi yn eich arwain yn uniongyrchol at yr wybodaeth berthnasol. Adolygir y safleoedd hyn yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal yn gyfredol. Serch hynny, lle mae gwybodaeth ar wasgar mewn sawl lleoliad neu lle mae lleoliad yr wybodaeth yn debygol o newid yn aml, dylid mynd at yr wybodaeth trwy gyfeiriad cyffredinol y wefan. I ddarllen dogfennau PDF bydd angen Adobe Acrobat Reader arnoch, sydd ar gael am ddim o wefan Adobe (http://www.adobe.com/). Yn ogystal, mae rhai o'r dogfennau hyn ar gael ar gopi caled.
Pan na chyhoeddir gwybodaeth yn electronig, nodir hyn yn glir o dan y dosbarth perthnasol.
Cedwir hawlfraint pob dogfen sy'n gynwysedig o fewn y cynllun cyhoeddi hwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Cysylltwch â'r Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus yn y cyfeiriad a roddir uchod am fanylion ynglŷn â'n polisi codi tâl ar gyfer ail-ddefnyddio ac atgynhyrchu.
Am bob dosbarth o wybodaeth yn y cynllun cyhoeddi, rydym yn dangos pa rai o'r categorïau canlynol a allai fod yn gymwys at yr wybodaeth y bwriadwch ei defnyddio ar gyfer eich ymchwil/astudiaeth breifat.
Rhaid gwneud y ceisiadau mewn ysgrifen (trwy lythyr, ffacs neu ebost), rhaid iddynt gynnwys enw a chyfeiriad cartref neu ebost yr ymgeisydd ynghyd â manylion digonol i alluogi LlGC i adnabod yr wybodaeth a fynnir. Bydd angen eich cyfeiriad cartref arnom os yw'r wybodaeth a ofynnir amdano ar gael ar ffurf copi caled yn unig.
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn nodi bod gan yr ymgeisydd ddwy hawl berthynol:
Bydd LlGC yn anelu at ymateb i geisiadau o fewn ugain niwrnod o'u derbyn. Os gofynnir am ffi, bydd y cyfnod ymateb yn cael ei ymestyn i 3 mis hyd nes y telir y ffi. Bydd unrhyw ffioedd yn cael eu pennu yn unol â'r Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth a Gwarchod Data (Ffioedd a Therfyn Priodol) 2004. Ni fydd rheidrwydd ar LlGC i gydymffurfio ag unrhyw gais sy'n debygol o fod yn fwy na therfynau cost y ffi.
Bydd yr ymgeisydd yn cael ei gyfeirio at gynllun cyhoeddi LlGC os yw'r wybodaeth a geisir ar gael eisoes, ac yn gyraeddadwy drwyddo. Byddai gwybodaeth nad yw'n gynwysedig yn y cynllun, ar gael efallai ar gais.
Bydd yr ymatebion yn cael eu hysgrifennu naill ai yn y Gymraeg neu'r Saesneg, gan ddibynnu ar iaith y cais.
Os yw'r wybodaeth y gofynnir amdani yn amodol ar eithriad, yna bydd rhaid i LlGC ystyried p'un ai i ddirymu'r eithriad hwnnw ai peidio oherwydd diddordeb y cyhoedd i ryddhau'r wybodaeth. Yr unig dro y gellir atal gwybodaeth yw pe byddai'r diddordeb cyhoeddus i'w atal yn fwy na'r diddordeb cyhoeddus i'w ryddhau, hynny yw, pan fyddai datgelu yn achosi cryn niwed neu'n torri cyfrinachedd.
Mewn achosion lle mae eithriad neu eithriad diamod yn bodoli, ni fydd rheidrwydd ar LlGC i ddatgelu p'un ai yw'n dal yr wybodaeth ai peidio, ond bydd yn rhoi eglurhad i'r ymgeisydd am ei phenderfyniad gan hysbysu'r ymgeisydd am ei hawl i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth. Os yw'r wybodaeth y gofynnir amdani yn cynnwys cyfran o wybodaeth eithriedig, dim ond yr agweddau penodol hynny ar yr wybodaeth a fyddai'n cael eu hatal, a byddai gweddill y dogfennau'n cael eu rhyddhau i'r ymgeisydd.
Nid oes rheidrwydd ar LlGC i ymateb i geisiadau annifyr neu ailadroddus am wybodaeth oddi wrth unigolyn dro ar ôl tro, i geisiadau na thalwyd y ffi benodedig amdanynt, ceisiadau sydd uwchlaw terfynau cost y ffi, neu geisiadau sydd â'u manylion yn annigonol ar gyfer adnabod yr wybodaeth a fynnir.
Pan fydd ymgeisydd yn gwneud cais am wybodaeth amdano ef/amdani hi ei hunan neu unigolion eraill, ystyrir hyn fel cais am fynediad i ddata personol o dan y Rheoliad Cyffredinol Gwarchod Data 2018, a bydd wedi ei eithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Mae LlGC yn ymrwymedig i fod mor agored â phosibl ac i roi'r wybodaeth a geisir. Serch hynny, gall y Llyfrgell atal gwybodaeth benodol os yw'n ystyried y byddai ei rhyddhau yn peri niwed sylweddol yn unol â'r eithriadau a restrir yn y Ddeddf. Os yw ymgeisydd yn anfodlon â'r rhesymau a roddir gan LlGC am atal gwybodaeth, mae croeso iddo ef/iddi hi i anfon cwyn at y Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus. Yn ogystal, gellir apelio at y Comisiynydd Gwybodaeth, os yw'r ymgeisydd yn credu nad yw LlGC wedi cydymffurfio â'i hymrwymiadau o dan y Ddeddf.
Mae LlGC yn croesawu awgrymiadau ynglŷn â'r modd y gellir gwella'r cynllun i ddiwallu anghenion defnyddwyr. Dylid anfon unrhyw sylwadau, awgrymiadau neu gwestiynau at:
Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth
Ceredigion
Cymru
SY23 3BU
Ffôn: +44 (0)1970 632 830
Ffacs: +44 (0)1970 615 709
Ebost: foi@llgc.org.uk